- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 12 2 2008
Bydd gan bobl ifanc yng Nghymru gyfle euraidd i efelychu arwr Bocsio Cymru, Joe Calzaghe, a bydd ffermwyr ifanc yn newid eu hesgidiau glaw am bâr o sgî’s yr haf yma, diolch i ddyfarniadau o bron i £17,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae pedwar prosiect, sydd wedi eu datblygu gan y bobl ifanc eu hunain, yn rhannu cyfanswm o £16,747 sydd wedi ei ddyfarnu drwy gangen Dyma Dy Gyfle, Cronfa Pobl fanc y Gronfa Loteri Fawr. Mae Dyma dy Gyfle yn helpu pobl ifanc yng Nghymru i wneud newidiadau positif i’w bywydau.
Trwy focsio, bydd gan bobl ifanc yng Nghasnewydd y cyfle i frwydo am ddyfodol gwell tra’n dysgu am iechyd, ffitrwydd, maeth a lles, diolch i’r £3,252 a ddyfarnwyd i sefydliad Cyswllt Cymunedol Duffryn. Wedi ei leoli yn ward Parc Tredegar, Casnewydd, bydd y grŵp yn sefydlu prosiect nos Wener i daclo ymddygiad gwrth gymdeithasol ar ystâd dai Duffryn. Bydd cyfran o’r arian yn cael ei wario ar offer bocsio newydd a sesiynau bocsio ar gyfer dynion ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â Newport Positive Futures, Heddlu lleol a Canolfan Chwaraeon Cymunedol Duffryn. Yn cael ei gynnal dros naw wythnos, mae’r fenter yn cynnwys gweithdai ar gamddefnyddio cyffuriau, alcohol a steroid, yn ogystal â phêl fasged, pêl droed a sesiynau rygbi tag.
Gan bwysleisio’r effaith y bydd y dyfarniad yma yn ei gael ar y gymuned, dywedodd, Lucy Powell, y Swyddog Datblygu Chwaraeon, sydd wedi ei lleoli ar ystâd Duffryn: “Y bobl ifanc eu hunain feddyliodd am y syniad. Rydym yn gobeithio cychwyn clwb bocsio ar gyfer pobl ifanc sy’n anfodlon neu sy’n ddatgyweddog ar yr ystâd, tra’n eu dysgu am iechyd a maeth. Mae gan Duffryn bocedi o broblemau gwrth gymdeithasol ond bydd yr arian loteri yn darparu nifer o bobl ifanc â chyfleoedd na fyddent yn gallu eu mwynhau fel arall. Dim ond cyllideb gyfyngedig sydd gennym i weithio gyda, felly mae dyfarniadau Dyma dy Gyfle wedi bod yn hwb aruthrol i’r bobl ifanc yn yr ardal.”
Bydd gan bobl ifanc yn Ynys Môn, sy’n byw yn un o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, rywle i dreulio eu nosweithiau yn awr diolch i ddyfarniad o £5,000 i Ganolfan Gymunedol Ffordd Llundain yng Nghaergybi. Gweddnewidiwyd ac ailwampiwyd y cyn gapel i mewn i ganolfan gymunedol lawn bywyd yn Nhachwedd 2006, ac mae gan y cyfleuster erbyn hyn ystafell ffitrwydd foethus, ystafell gerddoriaeth, swît TGCh a chaffi. Bydd y prosiect yn gwario eu harian ar ddarparu cyfleuster galw i mewn i ieuenctid, a fydd ar agor i’r bobl ifanc dair noson yr wythnos. Mae’r arian yn rhan o brosiect £12,000 i gadw bobl ifanc oddi ar y strydoedd, yn brysur ac i’w darparu â chyfleoedd i ddysgu sgiliau TGCH a choginio, dysgu am ffitrwydd a maeth neu hyd yn oed sut i chwarae’r gitâr, drymiau neu’r piano.
Yn hapus iawn â’r grant, dywedodd Rheolwr y Prosiect , Lee Dixon: “Mae diffyg cyfleusterau yn y ward a gobeithiwn y bydd y prosiect yma yn stopio pobl ifanc rhag cymdeithasu ar y strydoedd ac mewn cysgodfeydd bws. Bydd pobl leol yn y gymuned yna yn teimlo yn fwy diogel i gerdded trwy’r strydoedd gyda’r nos. Bydd y bobl ifanc yn cael bwyta’r bwyd y byddant yn ei goginio a bydd ganddynt hefyd y cyfle i losgi’r calorïau yn y gampfa. Mae’r ganolfan wedi ei hadeiladu ar gyfer y gymuned a gallwn yn awr wireddu potensial yr adnodd arbennig yma, gyda’r hen a’r ifanc yn cymdeithasu o dan yr un to. Byddai’n rhaid i ni fod wedi gwneud llawer o waith codi arian i gael yr un swm, ond roedd y rhaglen Dyma dy Gyfle yn siop un alwad, a roddodd i ni bopeth oeddem ei angen.”
Bydd ffermwyr yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yn newid eu hesgidiau glaw am bâr o sgî’s yr haf yma. Diolch i ddyfarniad o £3,500, bydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanymddyfri yn rhedeg prosiect i ddarparu cyfres o weithdai a phrofiadau newydd i fwy na 50 o aelodau ifanc. Bydd y grŵp, sydd rwng 12 a 18 mlwydd oed, yn mynd ar daith i’r Snowdome ym Mirmingham dros wyliau’r haf i gael gwersi sgïo. Byddant hefyd yn llogi canolfan gymunedol leol i gael gwersi canu a dawnsio.
Gyda’r £4,995 a dderbyniwyd ganddynt, bydd Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin yn darparu mynediad i wasanaethau, cyfleoedd a gweithgareddau i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Trwy sustem ‘bydi’, bydd y prosiect yn galluogi 15 o bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i gael mynediad i’r clwb a mwynhau'r amrediad eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnig.
Ar dân dros gychwyn y prosiect y mae, Gayle Harris, sy’n Reolwr Prosiect gyda Phrosiect Ieuenctid Caerfyrddin, a dywedodd: “Rydym eisiau treblu’r aelodau sydd gennym yn barod a rhoi llais i bobl ifanc yn y gymuned. Gallai hyn agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd i bobl ifanc yn y dyfodol.”
Gan bwysleisio pwysigrwydd rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc, Mike Theodoulou: “Bydd y prosiectau hyn yn darparu pobl ifanc â chyfle i ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol, datblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain mewn amgylchedd ddiogel. Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gall symiau bychain o arian wneud gwahaniaeth mawr, trwy helpu grwpiau i ddatblygu amrediad o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.”
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp chi ymgeisio am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio sy’n arbennig i ‘Gymru’. Fel arall, gallwch ffonio swyddfa'r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags