- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 22 10 2007
Bydd egin actorion ac ieuenctid o bob gallu yng Nghymru yn cael mynegi eu doniau creadigol a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, diolch i arian gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae pedwar o brosiectau a ddatblygwyd gan y bobl ifanc eu hunain yn rhannu cyfanswm o £19,646 a ddyfarnwyd drwy ffrwd Dyma dy Gyfle y Gronfa Pobl Ifanc. Mae Dyma dy Gyfle yn helpu pobl ifanc yng Nghymru rhwng 10 a 19 mlwydd oed i wneud newidiadau positif i'w bywydau.
Bydd yr arian yn helpu i wella gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc o ystod o wahanol gefndiroedd. Nod y prosiectau yw annog y bobl ifanc i feddwl yn greadigol a chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau newydd a rhoi cyfleoedd newydd na fyddai llawer yn gallu eu mwynhau fel arall.
Golau, camera, ac amdani fydd hi yn Ysgol Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Byddant yn gwario eu dyfarniad o £5,000 i alluogi i glwb drama allgyrsiol gael profiad o ffilmio a chynhyrchu ffilm fer ar faterion sy’n effeithio ar eu grŵp cyfoedion a'r gymuned leol.
Mae aelodau o Glwb Ieuenctid Llanpumsaint ger Caerfyrddin hefyd yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn gweithgareddau niferus diolch i'w dyfarniad o £4,486. Bydd yr arian yn cynnig cyfleoedd i ieuenctid Llanpumsaint na fyddai ar gael iddynt fel arfer. Bydd y prosiect yn rhoi cyfle iddynt archwilio eu doniau creadigol drwy weithdai drama a dawns arbennig. Bydd y grant hefyd yn helpu i dalu am daith i Lundain a galluogi'r bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm megis marchogaeth ceffylau a saethu peli paent.
Mewn prosiect sy'n ymestyn dros Gymru gyfan, bydd sefydliad Tros Gynnal yn gwario eu dyfarniad o £4,900 ar fenter i gefnogi grŵp ymgynghorol pobl ifanc a darparu penwythnos preswyl i bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau'r grŵp.
Diolch i'r £4,900 a ddyfarnwyd i'r sefydliad Plant yng Nghymru, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, bydd pobl ifanc yn trefnu dau ddigwyddiad arbennig ar gyfer pobl ifanc anabl dros Gymru gyfan, a fydd yn helpu i feithrin eu gallu drwy godi eu hyder a hunan-barch.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi gwerthfawr newydd, i fod yn greadigol, i ddatblygu sgiliau cyffrous a newydd ac i fynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Dyma enghraifft berffaith o sut y gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr, drwy helpu grwpiau i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau."
Am wybodaeth bellach am y prosiectau a sut i gael manylion cyswllt y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr drwy’r e-bost neu ar y rhifau isod.
Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol i ‘Gymru’. Fel arall, cewch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri fawr ar 01686 611 700.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol gychwyn ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags