- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 13 3 2007
Rholiwyd pêl gan ieuenctid Cymru heddiw, i lansio cystadleuaeth Miliynau’r Bobl Cronfa Loteri Fawr ac ITV, gan roi golau gwyrdd i brosiectau cymunedol ledled rhanbarth ITV Wales i ymgeisio am gyfran o £400,000 o arian y Loteri.
Rholiodd plant cynradd Ysgol Gymraeg Aberystwyth bêl enfawr, wyth troedfedd Cronfa Loteri Fawr ar hyd y dref glan môr enwog, i gyhoeddi bod pum dyfarniad hyd at £80,000 yr un yn barod i gael eu hennill gan brosiectau cymunedol ledled Cymru.
Bydd gan bobl ledled y rhanbarth hyd at 17 Mai 2007 i wneud cais i’r gystadleuaeth. Bydd modd i wylwyr ITV Wales bleidleisio dros y prosiectau cymunedol lleol y maent am eu gweld yn ennill arian achosion da y Loteri, pan fydd y gystadleuaeth yn cyrraedd y sgrîn deledu ym mis Tachwedd.
Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, dyfarnwyd cyfanswm o £378,071 i wyth prosiect yng Nghymru. Nid oes enillydd wedi bod hyd yma yng nghanolbarth Cymru, felly mae ieuenctid Aberystwyth heddiw yn gobeithio mai eu cymuned hwy fydd nesaf.
Mae enillwyr blaenorol wedi bod yn defnyddio eu gwobrau i wneud eu cymunedau yn well llefydd i fyw. Maent yn cynnwys creu gardd synhwyraidd i blant yn stad dai Plas Madog, Wrecsam a chreu parc chwarae wedi’i gynllunio’n broffesiynol ar gyfer babanod a phlant iau ym mhentref Broadhaven yn Sir Benfro.
Gan edrych ymlaen at flwyddyn arall o Miliynau’r Bobl, meddai Tom Davies, Aelod Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Miliynau’r Bobl hyd yn oed yn fwy ac yn well eleni, gyda chyfle gwych arall i’r cyhoedd yng Nghymru gael llais cryf wrth ddweud lle dylid gwario arian y Loteri. Dyma gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ac mae’n newyddion gwych i gymunedau ledled Cymru. Os oes angen £80,000 ar eich cymuned i ariannu prosiect a fydd yn cynorthwyo’r amgylchedd leol, cynnwys pobl leol a chynorthwyo’r rhai sy’n wynebu caledi, mae’r neges yn syml – anfonwch eich cais!”
Meddai Elis Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolwr Rhaglenni ITV Wales: “Mae ITV Wales yn edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod arian cymunedol y loteri yng Nghymru yn cyrraedd at y prosiectau mwyaf haeddiannol. Cawsom ymateb enfawr i Miliynau’r Bobl dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i wylwyr bleidleisio dros eu hoff brosiectau ar “Wales Tonight” ac rwy’n gobeithio y bydd y gystadleuaeth eleni eto yn ysgogi gwylwyr ITV Wales i gymryd rhan mewn prosiectau dyfeisgar er lles eu cymunedau.”
Ceir pecynnau cais ar gyfer Miliynau’r Bobl drwy ffonio: 08450 10 11 12 neu drwy fynd at www.peoplesmillions.org.uk Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, Iau 17 Mai 2007.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr, Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu Hwnt i Oriau Swyddfa: 07760 171 431
Cyswllt y Wasg ITV Wales: Sally Holmes ar: 02920 590 746
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Rhanbarthau darlledu ITV ym Miliynau’r Bobl:
ITV Anglia (East), ITV Anglia (West), ITV Border, ITV Central (East), ITV Central (West), ITV Granada, ITV London, ITV Meridian (South), ITV Meridian (South East), ITV Thames Valley, ITV Tyne Tees, ITV Wales, ITV West, ITV West Country, ITV Yorkshire, stv Central, stv North, UTV
Mae 90 gwobr ar gael – 4 ac un gwobr ychwanegol ym mhob un o 18 rhanbarth ITV.
Dyddiadau allweddol Miliynau’r Bobl ar gyfer eich dyddiadur:
- 17 Mai: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
- 31 Hydref: Cyhoeddi rhestr fer derfynol o’r prosiectau i’r cyfryngau
- 26 - 30 Tachwedd: Darlledu cystadleuaeth Miliynau’r Bobl ar ITV.
- Ers lansio Miliynau’r Bobl yn 2005, nod y gystadleuaeth fu ariannu prosiectau sy’n gwella safon bywyd cymunedau lleol drwy drawsnewid yr amgylchedd leol. Eleni mae’r meini prawf ariannu hefyd yn cynnwys prosiectau sy’n darparu cyfleoedd neu adnoddau ar gyfer mwynhau’r amgylchedd leol.
- Mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £2 filiwn o arian achosion da y Loteri bob 24 awr, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl y DG yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a gyllidir gan y Loteri.
- Rhifau ffôn ar gyfer pleidleisio – Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a Cronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhif ffôn cost isel, heb fod yn un premiwm. Nid yw ITV a Cronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o’r rhifau ffôn pleidleisio.
- Mae Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei gychwyn ym Mehefin 2004. Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd Cronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymrodd gyfrifoldebau gweddilliol yn dilyn diddymu Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau’r cyrff a unwyd er mwyn symleiddio ariannu yn y meysydd sy’n gorgyffwrdd a sicrhau bod arian Loteri yn darparu’r gwerth gorau posib am yr arian.
Tags