Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Leuenctid Cymru yn cynhyrfu’r dyfroedd gyda arian y Loteri

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
2 4 2008
Bydd ieuenctid Cymru yn hwylio ar frig ton o arian y loteri diolch i hwb ariannol o ymron i £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae deuddeng prosiect, a ddatblygwyd gan y bobl ifanc eu hunain, yn rhannu cyfanswm o £48,104 a ddyfarnwyd trwy gangen Dyma Dy Gyfle, Cronfa Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr. Mae Dyma Dy Gyfle yn helpu pobl ifanc yng Nghymru i wneud newidiadau positif i'w bywydau.

Bydd yr arian yn helpu i ddarparu gweithgareddau i bobl ifanc o ystod o wahanol gefndiroedd. Nod y prosiectau yw galluogi i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, mynegi eu hunain mewn ffyrdd newydd a chreadigol a chynnig cyfleoedd na fyddai llawer ohonynt yn gallu eu  mwynhau fel arall.

Mae’r tonnau’n galw i bobl ifanc yn Ynys Môn, Conwy a Phen Llŷn yng Ngwynedd, diolch i'r £5,000 a ddyfarnwyd i grŵp Clwb Syrffio Cerrig a ffurfiwyd o’r newydd. Bydd yr arian yn cael ei wario ar ddarparu gweithgareddau syrffio awyr agored a gweithdai amgylcheddol ar gyfer pobl ifanc o ardaloedd gwledig. Bydd yr arian yn cael ei wario ar fyrddau syrffio a dillad gwlyb newydd, ffioedd gweithdai a chostau teithio. Mae pobl ifanc anabl yng Ngwynedd hefyd yn elwa diolch i'r £3,073 a ddyfarnwyd i Barnardos. Bydd y prosiect yn galluogi i bobl ifanc fwynhau gweithgareddau prif ffrwd trwy gymryd rhan mewn penwythnos o weithgareddau awyr agored ac ymweliad â'r sinema.    

Bydd pobl ifanc ag anghenion arbennig ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phowys hefyd yn derbyn cyfran o’r dyfarniadau. Bydd grant o £2,673 i Techniquest ym Mae Caerdydd yn galluogi i 200 o bobl ifanc ag anghenion arbennig o Ben-y-bont ar Ogwr ymweld â’r ganolfan ryngweithiol am ddiwrnod o weithgareddau. Bydd y prosiect yn cymell ac yn cynyddu datblygiad personol pobl ifanc sydd ag anghenion arbennig ac yn caniatáu iddynt gymryd rhan mewn tri gweithdy her gwyddoniaeth. Gyda’u dyfarniad o £4,994, bydd Ysgol Breswyl Neuadd Brynllywarch yn y Drenewydd yn cynnig gemau ar gyfer 18 o bobl gydag anghenion arbennig ac yn galluogi iddynt gymryd rhan mewn cwrs medrusrwydd beicio, ymgymryd â theithiau i arsyllfa, bowlio, sinema a sglefrio iâ.  

Mae’n amser chwarae yng Ngheredigion wrth i RAY Ceredigion wario’r £4,999 y maent hwy wedi’i dderbyn ar brosiect i alluogi i bobl ifanc ymgymryd ag ymweliad ymchwilio â safleoedd chwarae mynediad agored ar draws Cymru.  Bydd pobl ifanc yn mynd ag offer ffotograffig a recordio sain i recordio eu hargraffiadau a’u cyflwyno’n ôl i'w cymuned leol.

Bydd Gofalwyr ifanc a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn elwa yng Nghasnewydd. Gyda’r £2,980 maent hwy wedi’i dderbyn, bydd Barnardos yn galluogi i 50 o bobl ifanc o Gasnewydd gael egwyl haeddiannol o’u dyletswyddau. Bydd y gofalwyr ifanc yn llythrennol yn mynd ar daith wyllt wrth iddynt ymweld â saffari a pharc thema Dryaton Manor.  Nod y prosiect yw eu helpu i adeiladu ar eu sgiliau cymdeithasol, eu hannibyniaeth a chreu cysylltiadau gyda gofalwyr ifanc o fewn Sir Casnewydd sy'n rhannu'r un profiadau a phroblemau. Bydd dyfarniad o £3,170 i Anondho Dhara Newport yn galluogi i bobl ifanc o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig gymryd rhan mewn rhaglen tridiau o weithgareddau awyr agored.

Bydd ffermwyr ifanc yn Sir Benfro yn cyfnewid eu hesgidiau glaw a’r awyr agored am goridorau gwleidyddol San Steffan, diolch i'r £1,597 a ddyfarnwyd i Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro. Bydd y prosiect yn galluogi i 40 o bobl ifanc ymweld â Thŷ’r Cyffredin yn Llundain, er mwyn dysgu am y broses ddemocrataidd yn y wlad hon. Gyda grant o £4,991, bydd Tanyard Youth Project Limited ym Mhenfro yn darparu caffi ieuenctid ym Mhrosiect Ieuenctid Tanyard. Bydd y caffi yn cael ei redeg gan bobl ifanc a bydd y prosiect yn cynnig gweithdai yn ymwneud â bwyta’n iach a choginio ar gyllideb. Bydd y prosiect hefyd yn galluogi i bobl ifanc ennill cymwysterau mewn hylendid bwyd. Bydd y grant yn cyfrannu at gostau cegin newydd, gwaith trydan a nwy, gosod cegin, eitemau bach o offer a hyfforddiant hylendid bwyd sylfaenol.

Bydd dau brosiect yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn elwa o’r dyfarniadau. Gyda’r £4,973 y maent hwy wedi’i dderbyn bydd sefydliad Rhoi Pobl yn Gyntaf Rhondda Cynon Taf yn sefydlu clwb ieuenctid i ddwyn pobl ifanc o wahanol brofiadau a chefndiroedd ynghyd. Bydd dyfarniad o £4,654 yn galluogi i sefydliad Gwasanaethau Cyfryngu Cymunedol Rhondda Cynon Taf sefydlu cynlluniau cyfryngu cyfoedion o fewn pump o ysgolion uwchradd yn y Sir. Mae cyfryngu cyfoedion yn broses wirfoddol lle bydd pâr o ddisgyblion yn gweithredu fel cyfryngwyr i'w grŵp cyfoedion.

A golau, camera ac ewch fydd hi i’r ieuenctid yn Abertawe. Gyda'r £5,000 a ddyfarnwyd i Barnardos, bydd pobl ifanc yn Abertawe yn cynhyrchu ffilm fer yn edrych ar faterion digartrefedd a byw ar eu pennau eu hunain o safbwynt pobl ifanc.

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau hyn yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol ac i ddatblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain o fewn amgylchedd diogel. Dyma enghraifft berffaith o sut gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr, drwy helpu grwpiau i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.”

Manylion Pellach

Am wybodaeth bellach am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddio’r cyfleuster chwilio penodol i Gymru. Fel arall, gallwch ffonio swyddfa’r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau:  07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Ffôn Testun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 280,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
ADBORTH