- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 23 7 2007
Bydd ieuenctid agored i niwed a phobl ifanc sydd ag anableddau yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a chael dysgu sgiliau newydd gwerthfawr, diolch i gyfraniad o ymron i £30,000 gan y Gronfa Loteri Fawr i saith o brosiectau a ddatblygwyd gan bobl ifanc.
Bydd y prosiectau yn rhannu cyfanswm o £29,877 a ddyfarnir drwy adain Dyma Dy Gyfle y rhaglen Cronfa Pobl Ifanc, sy’n helpu i wneud newidiadau positif i fywydau pobl ifanc rhwng 10 a 19 mlwydd oed yng Nghymru.
Bydd yr arian yn helpu i ddarparu gweithgareddau ar gyfer ieuenctid sy’n agored i niwed, ieuenctid anabl a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Bydd rhai prosiectau yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau newydd a bydd eraill yn darparu cyfleoedd newydd na fyddai llawer yn gallu eu mwynhau fel arall.
Gyda’r £4,688 y maent wedi derbyn, bydd Barnardos yng Nghastell-nedd Port Talbot yn rhedeg prosiect i ddarparu gwyliau gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc agored i niwed rhwng 10 a 19 mlwydd oed o Gastell-nedd, bydd Brecknock Women’s Aid Ltd yn Aberhonddu, Powys, yn gwario £1,650 ar brosiect i ddarparu gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc rhwng 10 a 16 mlwydd oed sydd mewn lloches.
Mewn prosiect sy'n ymestyn dros Gymru gyfan, bydd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn gwario £4,990 ar brosiect a fydd yn galluogi i bobl ifanc o ardaloedd gwledig ledled Cymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a rhoi’r cyfle iddynt leisio’u barnau a chyfrannu at lunio dyfodol y sefydliad. Bydd Cymdeithas Gymunedol Peniel yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn cynnal prosiect i helpu pobl ifanc yn y gymuned wledig. Bydd y grŵp yn gwario £4,915 i redeg clwb ieuenctid yng nghymuned wledig Peniel, a ddarparwyd yn flaenorol gan Wasanaeth Ieuenctid yr Awdurdod Lleol.
Prosiectau i ddatblygu sgiliau newydd fydd y canolbwynt ym Mlaenau Gwent a Wrecsam. Bydd grant o £5,000 yn caniatáu i Tillery Action For Youth yn Abertyleri, Blaenau Gwent, gynnal diwrnod o weithdai i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt. Bydd y diwrnod yn rhoi cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar syniadau/gweithgareddau newydd na fyddant wedi cael y cyfle i’w gwneud yn flaenorol, datblygu sgiliau newydd a chodi eu hymwybyddiaeth ynghylch fforymau, clybiau a chyfleoedd i ieuenctid lleol.
Yn Wrecsam, Gogledd Cymru, bydd Barnardos yn cynnal prosiect i alluogi i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd mewn golygu DVD, a chynhyrchu DVDs er mwyn rhannu eu profiadau a lleisio’u barn a chynhyrchu canllawiau DVD yn ymwneud â materion penodol. Gerllaw yn Sir Ddinbych, bydd Barnardos hefyd yn gwario £5,000 i alluogi aelodau o 'Barnardo's United', y fforwm anabledd i ieuenctid, i dreulio penwythnos mewn canolfan weithgaredd hygyrch.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor Cronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol, ac i ddatblygu sgiliau newydd a chyffrous a mynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Mae’r grantiau hyn yn anfon neges glir at grwpiau eraill: os credwch chi y gall rhwng £500 a £5,000 mewn arian parod helpu eich grŵp i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, yna gwnewch gais i'r Gronfa Loteri Fawr.”
Am wybodaeth bellach ynghylch y prosiectau, a manylion cyswllt y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru naill ai drwy’r e-bost neu drwy ffonio’r rhifau isod.
Am wybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Pobl Ifanc a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i ’Gymru’. Fel arall, cewch ffonio swyddfa'r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
- Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian y Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.
Tags