- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 30 3 2007
Bydd cannoedd o ofalwyr ifanc yng Nghymru yn derbyn mwy o gefnogaeth a phobl ifanc ag anableddau dysgu yn ennill mwy o sgiliau a phrofiad diolch i ddyfarniad o bron i £1 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr.
Mae pobl ifanc ledled y wlad yn llawenhau ar ôl derbyn y newyddion eu bod ar fin elwa o gyfanswm mawreddog o £913,922 sydd wedi’i ddyfarnu i chwe phrosiect gwahanol o dan Gronfa Pobl Ifanc y Gronfa Loteri Fawr. Yr hwb ariannol mwyaf oedd y £908,922 a ddyfarnwyd i bum prosiect o dan y rhaglen ‘Help Llaw’ gwerth £6.2 miliwn. Mae Help Llaw yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru sydd mewn risg o gael eu dadrithio a’u hymddieithrio, neu sydd eisoes wedi’u dadrithio a’u hymddieithrio, yn enwedig o fewn cymunedau difreintiedig. Bydd un prosiect hefyd yn elwa o’r £5,000 a ddyfarnwyd o dan raglen lai'r Gronfa Loteri Fawr Dyma dy Gyfle, sydd â £1 miliwn i ddyfarnu i brosiectau, gweithgareddau ac offer sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc rhwng 10 a 19 mlwydd oed yng Nghymru.
Bydd prosiectau sy’n gweithredu ym Men-y-bont, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe yn rhannu’r dyfarniadau. Bydd yr arian yn cael ei wario ar ystod eang o fentrau a fydd yn cynorthwyo pobl ifanc o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a galluoedd.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd Cronfa Pobl Ifanc, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Cronfa Pobl Ifanc: “Rwyf wedi bod yn ffodus i gael fy mhenodi yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cronfa Pobl Ifanc ar gyfer y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru. Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi bod yn weithredol iawn wrth gefnogi pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd a heb os bydd gan y prosiectau yr ydym wedi'u hariannu heddiw fuddion eang i gannoedd o bobl ifanc o amrywiol gymunedau a chefndiroedd yng Nghymru.”
Yng Nghaerdydd, bydd y corff Supporting Asylum and Refugee Affairs yn gwario eu dyfarniad o £5,000 gan Dyma dy Gyfle ar brosiect i gychwyn clwb gwaith cartref i gynorthwyo plant ceiswyr lloches a ffoaduriaid rhwng 11 a 16 mlwydd oed gyda gweithgareddau gwaith cartref dyddiol.
Bydd dyfarniad o £253,065 o dan Help Llaw yn caniatáu i'r Royal Mencap Society yn Sir Gaerfyrddin redeg prosiect a fydd yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu i ennill sgiliau ymarferol a phrofiad gwaith ac i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned leol. Bydd yr arian yn darparu cefnogaeth ychwanegol i'r grŵp hwn ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith gyda chyflogwyr lleol a grwpiau cymunedol.
Mewn prosiect sy'n gweithredu yn siroedd Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, bydd Elite Supported Employment Agency Limited yn gwario’r £269,560 maent wedi’i dderbyn o dan Help Llaw ar brosiect a fydd yn gweithio gyda'r rhai rhwng 15 a 19 mlwydd oed sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol, yn ystod eu dwy flynedd olaf mewn addysg. Bob blwyddyn, bydd hyd at 25 o bobl ifanc yn dysgu sgiliau newydd, yn cael eu cefnogi i mewn i gyflogaeth a gwaith gwirfoddol, yn ennill cymwysterau, yn dangos gwell hunan-barch, hyder ac integreiddiad cymdeithasol.
Bydd Cyngor Sir Powys yn gwario’u dyfarniad Help Llaw o £113,060 ar brosiect i bobl ifanc rhwng 15 a 19 mlwydd oed sy'n gadael gofal ym Mhowys drwy ddarparu gweithgareddau cyfranogol. Bydd y grant dros gyfnod o dair blynedd, yn ariannu dau Swyddog Cyfranogi yn rhannol, un yn y Drenewydd ac un yn Aberhonddu, yn ogystal â fforwm pobl sy’n gadael gofal preswyl a gofal, diwrnodau galw i mewn wythnosol a diwrnodau gweithgaredd, cyhoeddusrwydd, costau hyfforddi ac offer cyfrifiadurol.
Bydd Dyfarniad Help Llaw o £102,260 yn caniatáu i Crossroads Care Attendant Scheme Ltd Abertawe Nedd a Phort Talbot redeg prosiect a fydd yn gweithio mewn 13 o ysgolion uwchradd a dau goleg yn Abertawe er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch anghenion gofalwyr ifanc.
Mae gofalwyr ifanc yn blant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed sy'n gofalu am rieni a pherthnasau eraill sy'n anabl neu sy'n byw ag ystod o gyflyrau gwanhaol. Yn ôl y Gymdeithas Blant, mae nifer fawr o blant, gan gynnwys rhai sydd mor ifanc ag wyth, yn ymgymryd â rôl y prif ofalwr dros aelod o’u teulu gydag o leiaf un mewn deg o ofalwyr ifanc yn treulio mwy nag 20 awr yn gofalu bob wythnos.
Bydd y cynllun newydd hwn yn cefnogi 180 o ofalwyr ifanc rhwng 11 a 18 mlwydd oed ac er mwyn cefnogi’r ysgolion i sefydlu polisïau gofalwyr ifanc a systemau cefnogaeth. Bydd rhan o’r grant tair blynedd yn talu am gyflog gweithiwr Datblygu Addysgol llawn amser.
Yng Ngogledd Cymru, bydd Groundword Wrecsam a Sir y Fflint yn gwario’u Dyfarniad Help Llaw gwerth £170,977 ar brosiect a fydd yn darparu hyfforddiant datblygu prosiect ymarferol a sgiliau drwy brosiectau amgylcheddol cymunedol i'r bobl ifanc fwyaf difreintiedig ac sydd wedi'u hymddieithrio fwyaf yn Sir y Fflint. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio fel Mentoriaid Cymunedol a bydd ganddynt gyfle i ymgymryd â chwrs Sylfaen mewn hyfforddiant Gwaith Ieuenctid.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Ar 28 Tachwedd cwblhaodd Gorchymyn Cronfa Loteri Fawr (Gwariant Rhagnodedig) 2006 ei daith drwy’r Senedd a daeth i rym Ddydd Gwener 1 Rhagfyr ac ar yr un pryd daeth y Gorchymyn Diddymu Dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol 2006 i rym hefyd gan ddiddymu Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), y Gronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da'r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn enw cydweithredu'r Gronfa Cyfleoedd Newydd, Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (a oedd yn rhoi grantiau o dan enw'r Gronfa Gymunedol) er mis Mehefin 2004.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn adeiladu ar brofiad ac arfer gorau'r cyrff cyfun er mwyn symleiddio’r ariannu yn y meysydd hynny lle'r oeddynt yn gorgyffwrdd ac er mwyn sicrhau bod arian y Loteri yn darparu'r gwerth am arian gorau posibl.
Tags