Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

‘Help llaw’ i ieuenctid Cymru gael Blwyddyn Newydd o gyfleoedd

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
10 1 2008
Bydd pobl ifanc o amrywiol ddiwylliannau, cefndiroedd a gallu yng Nghymru yn dysgu sgiliau gwerthfawr newydd ac yn agor drysau i ystod eang o gyfleoedd a phrofiadau anhygoel, diolch i dros £1.3 miliwn mewn grantiau Cronfa Loteri Fawr.

Mae pobl ifanc ledled y wlad yn dathlu yn dilyn y newyddion y byddant yn elwa o gyfanswm o £1,332,797, a ddyfarnwyd i ystod o brosiectau drwy Cronfa Pobl Ifanc Cronfa Loteri Fawr. Bydd wyth prosiect yn elwa o’r arian a ddyfarnwyd drwy raglen £6.2 miliwn ‘Help Llaw’, sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yng Nghymru, yn arbennig y rhai mewn cymunedau dan anfantais.

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhaglen Help Llaw, meddai aelod Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr, a Chadeirydd Pwyllgor Cronfa Pobl Ifanc, Mike Theodoulou: “Mae Cronfa Loteri Fawr wedi bod yn weithgar iawn wrth gefnogi pobl ifanc yng Nghymru dros y blynyddoedd, ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd y prosiectau yr ydym yn eu hariannu heddiw yn arwain at fuddiannau eang i gannoedd o bobl ifanc o amrywiol gymunedau a chefndiroedd yng Nghymru.”

Wedi diweddglo cyffrous i 2007 yn sgil ennill £49,100 o arian loteri yng nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl, bydd hwb pellach ar ddechrau 2008 i Strategaeth Adfywio Cymuned Bryncynon Cyf yn Rhondda Cynon Taf, diolch i’w dyfarniad o £112,517 drwy Help Llaw. Bydd yr arian yn cael ei wario ar brosiect a fydd yn cynorthwyo pobl ifanc i symud yn llwyddiannus o’u plentyndod i’w harddegau ac, yn y tymor hirach, o’u harddegau i fod yn oedolyn. Bydd y prosiect yn cyflogi gweithiwr i’w cynnwys mewn fforymau ieuenctid, gweithgareddau addysgiadol a gweithgareddau awyr agored.

Ym Mlaenau Gwent, bydd dyfarniad o £206,196 yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gynnal prosiect gyda phobl ifanc 13-18 oed sydd wedi ymddieithrio, i’w cynnwys mewn gweithgareddau cadarnhaol drwy gynllun ‘gwobrwyo'. Bydd pobl ifanc yn ennill pwyntiau drwy gyfrannu mewn gweithgareddau cymunedol neu gyflawni nodau ar eu cynlluniau datblygiad personol. Gellir defnyddio’r pwyntiau i’w cyfnewid am amrywiol weithgareddau hamdden.

Bydd pobl ifanc yng Nghaerffili yn siarad i gyd diolch i ddyfarniad o £40,810 i Fenter Iaith Sir Caerffili. Bwriad y prosiect yw datblygu a chynnal rhaglen o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, cyngor a chefnogaeth, gweithdai addysgiadol ac amrywiol weithgareddau o fewn cymunedau lleol, ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal.

Bydd dau ddyfarniad, sy’n gyfanswm o dros £340,000, er lles ieuenctid Gogledd Cymru. Gyda’u dyfarniad o £169,691, bydd Welsh Housing Aid Ltd yn recriwtio pobl ifanc dan anfantais sydd wedi bod yn ddigartref yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, ac yn eu cefnogi a’u hyfforddi i ennill RhCA mewn addysg cymheiriaid, gwaith grŵp a sgiliau cyfathrebu. Mewn prosiect arall yn canolbwyntio ar Sir y Fflint, bydd Barnardos yn gwario’u dyfarniad o £171,894 ar gefnogi plant a phobl ifanc 10-19 oed, drwy ddarparu nifer o ymyriadau er mwyn rhwystro a lleihau’r risg o ddioddef canlyniadau negyddol o ganlyniad i gamdrin sylweddau gan rieni.

Mae rhesymau gan siroedd Nedd-Port Talbot ac Abertawe i ddathlu hefyd. Gyda’u £183,638, bydd sefydliad Tros Gynnal yn Nedd Port Talbot yn darparu rhaglen o gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n dioddef anawsterau iechyd emosiynol. Bydd yn cynnwys therapi gwybyddol, cyngor, cyfeirio, hyfforddiant, gweithgareddau grŵp megis therapi celf, profiad gwaith a chyflwyniadau i amrywiol weithgareddau o ddiddordeb.

Bydd grant o £222,163 hefyd yn galluogi prosiect Down To Earth i gynnig rhaglen 'addysg briodol' yn cyfuno sgiliau traddodiadol gyda therapi diffeithwch i bobl ifanc o Abertawe a Nedd Port Talbot rhwng 14-18 oed sydd eisoes, neu mewn perygl o fod, wedi eu heithrio a/neu droseddu.

Dysgu sgiliau newydd sydd hefyd yn cael blaenoriaeth yng Nghasnewydd. Bydd Urban Circle Productions yn gwario eu dyfarniad o £225,888 ar brosiect i hyrwyddo addysg gydol oes a bod yn gynhwysol gan ddefnyddio technoleg i alluogi pobl ifanc o amrywiol ddiwylliannau, cefndiroedd a gallu i godi hyder, ennill sgiliau newydd a mynegi eu hunain drwy gyfrwng celfyddydau creadigol (ee cerddoriaeth, dawns) ac aml-gyfryngau. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn ariannu offer radio a darlledu, offer DJ, system PA ac offer cyfrifiadurol.

Am fwy o wybodaeth am Cronfa Loteri Fawr a sut y gall eich grŵp ymgeisio am arian, ewch at wefan Cronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk.
Am fwy o wybodaeth am y prosiectau, a manylion cyswllt am y grwpiau a’r sefydliadau cysylltiedig, cysylltwch â swyddfa’r wasg Cronfa Loteri Fawr ar y rhifau isod.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760171431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102030
Llinell Destun:  845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron i £1 miliwn yr wythnos o arian achosion da'r Loteri, sydd yn golygu, o’i gyfuno gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect wedi’i ariannu gan y Loteri.
  • Mae Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Pobl Ifanc
ADBORTH