Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ieuenctid Cymru yn mynd ar saffari diolch i arian y Loteri

Area:
Cymru
Programme:

Release date:
31 8 2007
Bydd ieuenctid yn Ne Cymru yn mynd ar saffari wrth iddynt gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau diolch i grant gan y Gronfa Loteri Fawr.

Bydd prosiectau a ddatblygwyd gan bobl ifanc ym Merthyr Tudful a Chaerffili yn rhannu cyfanswm o £5,015 a ddyfarnwyd drwy gangen Dyma Dy Gyfle y rhaglen Cronfa Pobl Ifanc. Mae Dyma Dy Gyfle yn helpu i wneud newidiadau positif i fywydau pobl ifanc rhwng 10 a 19 mlwydd oed yng Nghymru.

Bydd yr arian yn helpu i ddarparu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc o ystod o wahanol gefndiroedd. Bydd y prosiectau hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau newydd a bydd yn rhoi cyfleoedd newydd na fyddai llawer yn gallu eu mwynhau fel arall.

Bydd Clwb Bechgyn a Merched Georgetown ym Merthyr Tudful yn gwario’r £2,050 maent wedi ei dderbyn ar daith i barc saffari a pharc thema. Ar 7 Medi, bydd y tîm pêl-droed merched a rhai o'r bobl ifanc anabl yn mynd ar daith i Barc Saffari West Midland yn Bewdley, Swydd Gaerwrangon.   

Wrth gyfeirio at y dyfarniad, dywedodd Mandy Keating Cadeirydd Clwb Bechgyn a Merched Georgetown a Hyfforddwr y tîm pêl-droed merched: “Maent wedi gweithio’n galed drwy’r tymor ar y cae ac oddi arno ac wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i'r clwb. Mae’n beth braf iddynt gael diwrnod allan fel hyn. Go brin y byddai rhai o’n haelodau yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn pe na bai rhaglen fel Dyma dy Gyfle yn bodoli. Byddai wedi cymryd tipyn o amser i ni godi arian ar gyfer rhywbeth fel hyn ar ein pennau ein hunain.”

Roedd Grŵp Adfywio Deri yng Nghaerffili hefyd yn llwyddiannus o dan y cylch diweddaraf o ddyfarniadau. Byddant yn gwario eu £2,965 ar brosiect i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau, ymweliadau a gweithdai ar gyfer pobl ifanc, a fydd yn eu galluogi i brofi profiadau newydd, ennill sgiliau a gwybodaeth a chodi eu hunanhyder.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y rhaglen Dyma dy Gyfle, dywedodd Mike Theodoulou, aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Pobl Ifanc: “Bydd y prosiectau yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu gwersi newydd gwerthfawr, i fod yn greadigol, i ddatblygu sgiliau newydd a chyffrous ac i fynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Mae’r grantiau hyn yn anfon neges glir at grwpiau eraill: Os credwch chi y gall rhwng £500 a £5,000 mewn arian parod helpu eich grŵp i ddatblygu ystod o sgiliau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, yna gwnewch gais i'r Gronfa Loteri Fawr.”

Am wybodaeth bellach am y prosiectau, a manylion cyswllt y grwpiau a’r sefydliadau sy’n gysylltiedig, cysylltwch â swyddfa wasg Cronfa Loteri Fawr yng Nghymru naill ai drwy e-bost neu drwy ffonio’r rhifau isod.

Am wybodaeth bellach am y Gronfa Pobl Ifanc a sut y gall eich grŵp wneud cais am arian, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i ’Gymru’. Fel arall, gallwch ffonio swyddfa'r Gronfa Loteri Fawr ar 01686 611 700.

Gwybodaeth pellach

Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol gychwyn ym 1994, mae 28c o bob punt a warir gan y cyhoedd wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 250,000 o grantiau wedi’u dosbarthu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
ADBORTH