- Area:
- Cymru
- Programme:
- Pawb a'i Le
- Release date:
- 2 5 2008
O brosiect i adeiladu stiwdio ffilm a cherddoriaeth ar gyfer bobl ifanc, i ariannu gwell mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant , mae ystod o brosiectau ledled de orllewin Cymru yn elwa o hwb ariannol o £3 miliwn, a gyhoeddwyd heddiw drwy raglen Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr.
Dyfarnwyd cyfanswm o £3,195,150 i brosiectau ledled Cymru dan raglen Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr, sy’n ceisio uno pobl er mwyn gwneud cymunedau’n gryfach a gwella amgylcheddau gwledig a threfol. Dyfarnwyd cyfanswm o dros £1.7 miliwn, dros hanner yr arian, i saith prosiect sydd er lles cymunedau de orllewin Cymru.
Diolch i’r £220,808 a dderbyniwyd, bydd grŵp Ystafell Ddarllen Cwrt Henri yn adnewyddu, diweddaru ac estyn yr Ystafell Ddarllen adfeiliedig yng Nghwrt Henri ger y Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin. Mae’r Ystafell Ddarllen yn neuadd bentref fechan ac fel rhan o’r gweddnewidiad, bydd yr adeilad hanesyddol yn cael ei ail-wifrio a’i estyn, bydd y gegin yn cael ei gwella, y toiledau yn cael eu hestyn er mwyn ychwanegu toiledau i’r anabl, a bydd system gwres canolog ynni effeithiol yn cael ei gosod. Drwy wella’r cyfleuster, bydd gan y gymuned leol well mynediad at ystod o weithgareddau cymdeithasol ar gyfer bob oed. Bydd hyn yn cynorthwyo i leihau ynysigrwydd, gwella perthynas cymunedol, gwella sgiliau a gwybodaeth a chynorthwyo i adeiladu cymuned gryfach.
Gall prosiectau sy’n cael eu hariannu yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro ddarganfod y Steven Spielberg neu Chris Moyles nesaf. Bydd un o’r ddau brosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot i elwa o dros hanner miliwn o bunnoedd, C.I.C. Castell-nedd Port Talbot yn gwario £179, 928 ar brosiect i ddarparu hyfforddiant i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn darlledu a’r cyfryngau, a bydd hefyd yn darparu gorsaf radio leol i Gastell-nedd Port Talbot. Ac mae’r llwyfan yn barod ar gyfer pobl ifanc Sir Benfro. Gyda’r £367,807 a dderbyniwyd, bydd Prosiect Ieuenctid Tanyard Cyf yn cynnal prosiect Stiwdio Ffilm a Cherddoriaeth Boatyard. Bydd y prosiect yn galluogi pobl ifanc rhwng 10 ac 18 oed yn ardaloedd Penfro a Doc Penfro i ddatblygu a dysgu sgiliau gwneud ffilmiau a cherddoriaeth er mwyn ymgysylltu gyda phobl ifanc o’r gymuned. Bydd y grant yn cael ei wario ar brynu’r adeilad drws nesaf i’r Tanyard a’r costau i’w addasu ar gyfer ei ddefnyddio fel Stiwdio Ffilm a Cherddoriaeth. Bydd Technegydd Ffilm a Cherddoriaeth llawn amser hefyd yn cael ei gyflogi i gynnal y prosiect.
Mae cyfleoedd i alluogi pobl i gyrraedd at gyflogaeth a hyfforddiant hefyd yn nodweddion amlwg yn y dyfarniadau. Bydd dyfarniad o dros £330,000 yn galluogi Canolfan Lles ac Iechyd Ystalyfera yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau mewn adeilad cymunedol a brynwyd ac a adferwyd yn ddiweddar. Bydd y prosiect yn galluogi pobl i gyrraedd at gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli. Bydd yn ariannu darpariaeth gweithgareddau dawns, drama a chwaraeon, cyrsiau maeth a choginio sylfaenol, ystafelloedd i gynnal gwasanaethau yn darparu sgiliau a gwybodaeth am gyflogaeth, a bar byrbrydau.
Mae’r thema addysg a hyfforddiant yn parhau yn Abertawe, diolch i ddau ddyfarniad yn gyfanswm o bron i £370,000. Bydd y grŵp Cymorth Lleol i Anghenion Arbennig Plant a Chymunedau yn gwario’u dyfarniad o £107,372 ar ddarparu hyfforddiant a lleoliadau profiad gwaith ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio, mewn dwy siop elusennol yn y ddinas. Bydd grant o £260,000 i Ymddiriedolaeth Penllergare yn eu galluogi i gynnal y prosiect Ymgysylltiad ac Addysg Gymunedol. Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd hyfforddi, gweithgareddau gwirfoddoli, dehongli, addysg, gwell mynediad at ofod agored a gweithgareddau hamdden anffurfiol o fewn Coedwig Cwm Penllergare, Abertawe.
Bydd materion sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches benywaidd yn Abertawe hefyd yn cael eu taclo, diolch i grant o bron chwarter miliwn o bunnoedd (£247,411) a ddyfarnwyd i Oxfam. Dyma ran o brosiect a fydd yn cael ei gyflawni yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliadau Cymunedol Ffoaduriaid yn y dinasoedd. Bydd darpariaeth canolfannau galw-i-mewn a gweithgareddau yn lleihau unigrwydd cymdeithasol, a bydd yr hyfforddiant yn cynorthwyo menywod i ddod yn hyrwyddwyr dros eu cymunedau ac eiriolwyr dros well gwasanaethau i gyflawni anghenion penodol y budd-ddeiliaid targed.
Wrth sôn am effaith gadarnhaol y dyfarniad hyd yn hyn, dywedodd Aelod Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian Loteri i adnewyddu ac adfywio cymunedau, taclo anfantais a gadael etifeddiaeth barhaol. Bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cynifer o bobl yn y gymuned, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”
Am fwy o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch at www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch adnodd chwilio penodol ‘Cymru’.
Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn o arian achosion da'r Loteri bob wythnos, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl ledled Cymru yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
- Bu Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags