Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Clf yn helpu merched cwmafan i ddangos eu gwisgoedd ‘gwyrdd’

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
1 5 2008
Bydd merched ifanc Castell-nedd Port Talbot cyn hir yn codi eu pennau yn uchel a cherdded yn dalsyth ar hyd y llwyfan, i ddangos i bawb yn eu cymuned sut mae modd edrych yn dda a gwella eich bywyd, tra hefyd yn dysgu sgiliau newydd ac achub yr amgylchedd.

Ar ddydd Iau, Mai 1, bydd menywod a merched ifanc YWCA Cwmafan yn glamoreiddio eu hunain ar gyllideb i gyflwyno’r Sioe Ffasiwn Recycled Rags Funky Fashion Show. Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect gwerth £220,000, wedi ei ariannu fel rhan o raglen Pawb a’i Le Cronfa Loteri Fawr (CLF), sydd yn ceisio uno pobl i gryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

YWCA yw’r elusen flaenllaw sy’n gweithio gyda’r menywod a merched mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr. Ym mis Mehefin llynedd, derbyniodd YWCA Cwmafan £218,579 gan CLF i gynnal y prosiect ‘All About Eve’, sy’n ceisio cynorthwyo menywod ifanc yn yr ardal i ddatblygu hyder a sgiliau ac i gyfranogi yn y gwaith o gynhyrchu a chynnal prosiectau cymunedol, gweithdai a digwyddiadau ar gyfer merched eraill. Mae’r prosiect, dan arweiniad y defnyddwyr, yn canolbwyntio ar y testunau y mae merched difreintiedig yn eu nodi fel y rhai sy’n effeithio ar eu bywydau, megis bod yn rhiant, diweithdra, digartrefedd, diffyg neu brinder cymwysterau, eithriad o’r ysgol, trais yn y cartref, camwahaniaethu, ac unigrwydd gwledig.

Fel rhan o’r prosiect, mae merched ifanc YWCA Cwmafan wedi cynllunio a pharatoi sioe ffasiwn gydag amrywiaeth. Bydd yr holl ddillad a wisgir ar y noson yn ddillad wedi eu hailgylchu, wedi eu haddurno â deunyddiau ailgylchadwy. Y nôd yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ailgylchu a pha ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, a lle. Byddant hefyd yn gwneud cyflwyniad ar fywyd cynaliadwy, sut y gall pobl leihau eu hôl troed carbon, a sut y gallwn gynorthwyo anifeiliaid wrth wneud hyn. Bydd ychydig o’r gwaith celf a gynhyrchwyd ganddynt yn cael ei arddangos ar y noson. Mae’r sioe yn uchafbwynt misoedd o waith caled gan y merched sy’n mynychu’r prosiect.

Yn ôl Gweithwraig Prosiect yn YWCA Cwmafan, Gail Williams, mae’r prosiect yn dipyn mwy na threfnu digwyddiadau yn unig - mae’n brofiad sy’n trawsnewid bywydau’r merched sy’n cymryd rhan. Un o’r problemau allweddol mae merched ifanc yr ardal yn ei wynebu yw diflastod oherwydd diffyg gwasanaethau hygyrch, diweithdra uchel, tlodi ac ynysigrwydd. Mae problemau hefyd gydag iechyd rhywiol, cam-ddefnyddio cyffuriau, diffyg hunan-barch a hyder, cyrhaeddiad addysgiadol isel a thrafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig.

Gan edrych ymlaen at y sioe, dywedodd Gail Williams: “Mae’r merched wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect hwn, yn casglu gwybodaeth ac yn ymchwilio i’r cyfan eu hunain. Mae’r prosiect wedi llwyddo i wella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu rhwng pobl o bob oedran, cefndir a diwylliant. Yn ogystal â chael cyfranogi wrth gynllunio a chynnal y rhaglen, mae’r merched hefyd yn cael cyfle i ennill cymhwyster am gymryd rhan. Bydd hyn yn eu galluogi i ail-afael mewn hyfforddiant, addysg a chyflogaeth bellach, ac yn gymorth i daclo’r lefelau uchel o ddiweithdra sydd yn yr ardal.”

Wrth sôn am effaith gadarnhaol y dyfarniad hyn yn hyn, dywedodd Aelod Pwyllgor Cymru Cronfa Loteri Fawr a Chadeirydd Pwyllgor Pawb a’i Le, Janet Reed: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian Loteri i adnewyddu ac adfywio cymunedau, taclo anfantais a gadael etifeddiaeth barhaol. Mae’r dyfarniad hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cynifer o fenywod a merched ifanc yn y gymuned, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Am fwy o wybodaeth am raglen Pawb a’i Le a sut y gallwch ymgeisio am arian, ewch at www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch adnodd chwilio penodol ‘Cymru’.

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr – Oswyn Hughes: 02920 678 207
Tu hwnt i oriau swyddfa: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Llinell Destun: 0845 6021 659
Ceir manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grantiau Cronfa Loteri Fawr ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yng Nghymru, mae Cronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn o arian achosion da'r Loteri bob wythnos, sy’n golygu, gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, bod mwyafrif bobl ledled Cymru yn byw o fewn rhai milltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Bu Cronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr achosion da’r Loteri Genedlaethol, yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y DG ers ei ddechreuad ym Mehefin 2004. Cafodd ei sefydlu gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers cychwyn y Loteri Genedlaethol yn 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario wedi mynd at achosion da. O ganlyniad, codwyd dros £20 biliwn ac fe ddosbarthwyd dros 250,000 o grantiau i’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH