Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Pobl ifanc Cymru yn ennill gyda £2 miliwn o arian adfywio

Area:
Cymru
Programme:
Pawb a'i Le
Release date:
10 8 2007
Mae pobl ifanc mewn cymunedau ar draws Cymru yn elwa o dros £2 filiwn o arian y loteri gyda chefnogaeth rhaglen Pawb a’i Le y Gronfa Loteri Fawr.

Mae deuddeg cymuned yn elwa o’r £2,156,321 a ddyfarnwyd, sy’n anelu at ddod a phobl ynghyd er mwyn cryfhau cymunedau a gwella amgylcheddau gwledig a threfol.

Prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n derbyn ymron i hanner yr arian a ddyfarnir a bydd pobl yng Ngogledd Cymru yn elwa o grantiau sy'n dod i gyfanswm o £500,000. Gyda’r £244,127 y maent hwy wedi’i dderbyn, bydd Cymdeithas Gwasanaeth Personol Lerpwl yn Sir Ddinbych yn cynnal prosiect i ddarparu llyfrgell deganau a fydd yn helpu plant i wella eu sgiliau a darparu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer rhieni a gofalwyr i ddatblygu sgiliau newydd.  Mae hwn yn ddatblygiad ar brosiect cyfredol, a fydd yn cyflwyno ardaloedd daearyddol newydd, rhaglen i annog ymarfer corff, cynnig darpariaeth yn ystod y gwyliau ac ymestyn yr ystod oedran i gynnwys y rhai rhwng 6 ac 11 mlwydd oed.  

Hefyd yn Sir Ddinbych, bydd Grŵp Gweithredu Prestatyn a Meliden yn gwario £246,486 ar brosiect i ymestyn ar oriau agor a gwasanaethau'r ganolfan alw-i-mewn ym Mhrestatyn. Mae’r prosiect ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 - 25 mlwydd oed a bydd yn cynnig caffi newydd i bobl ifanc, ystafell gyfrifiaduron, cyfleusterau byw’n annibynnol a gweithgareddau celf.

Bydd pobl ifanc sy’n byw yn Ne Cymru hefyd yn elwa a bydd dyfarniad o ymron i £100,000 yn galluogi Canolfan Gymunedol Bridges yn Nhrefynwy i gyflogi swyddog datblygu yn y ganolfan er mwyn galluogi’r ganolfan i agor gyda’r nos, yn ystod y gwyliau ac ar benwythnosau.  O ganlyniad, bydd gweithgareddau yn cael eu hymestyn gan gynnwys hyfforddiant a datblygiad personol i wirfoddolwyr. Bydd y prosiect yn datblygu ac yn ehangu ar weithgareddau’r ganolfan ar gyfer yr uned deuluol, pobl ifanc a phobl sydd ar eu pennau eu hunain ar benwythnosau.

Bydd pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cadw’n heini diolch i ddyfarniad sy’n dod i gyfanswm o ymron i  £180,000. Bydd un grant o £100,966, i New Sandfields and Aberavon Sustainable Regeneration yn Aberafan yn galluogi’r grŵp i weithio mewn partneriaeth gydag Ardal Adnewyddu Cymdogaeth Castell-nedd Port Talbot i greu Ardal Chwarae Aml-ddefnydd ar ddarn diffaith o dir o fewn ystâd dai yn Aberafan. Bydd y prosiect yn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden. Bydd yr Ardal Chwarae Aml-ddefnydd yn rhan o brosiect mwy i adfywio darn o dir glas segur, lloches ieuenctid a gardd gymunedol a gynlluniwyd ar gyfer pobl ifanc a phreswylwyr sy’n byw ar gyrion Aberafan.  

Bydd dyfarniad o £76,564 yn caniatáu i Gymdeithas Caeau Chwarae Ynysdawley ym Mlaendulais greu cyfleuster chwarae i’r rhai yn eu harddegau gan gynnwys ‘Lloches Tîm’ ar gyfer plant rhwng 8 a 16 mlwydd oed. Bydd yr aml system yn darparu cyfleusterau megis dringo, cydbwyso ac adeiladu tîm.   Yn ychwanegol at hyn, bwriada’r prosiect adeiladu ardal chwarae pêl ym mhob tywydd, a fydd yn cynnwys ffens uchel 3 metr o hyd gyda physt gôl, rhwyd pêl-fasged ac ardal darmac wedi’i marcio ar gyfer amryw fathau eraill o chwaraeon.  Bydd modd defnyddio’r cyfleuster trwy gydol y flwyddyn.

Ymhellach i'r Gorllewin yn Sir Benfro, bydd dau brosiect yn anelu at ddatblygu sgiliau’r ieuenctid. Bydd Fishguard & Goodwick Young Persons Trust Limited yn Abergwaun yn gwario £224,110 ar brosiect i ddarparu rhaglen newydd o ryngweithio strwythuredig gydag oedolion ar gyfer buddiolwyr y sefydliad.  Sefydlir cyngor ieuenctid er mwyn penderfynu ar y gweithgareddau.

Nid dim ond pobl ifanc a fydd yn elwa o dan y cylch diweddaraf. Bydd Trafnidiaeth Wirfoddol Sir Benfro yn gwario £249,605 ar ddatblygu model newydd ar gyfer trafnidiaeth gymunedol yn Sir Benfro. Bydd rhan o’r grant yn talu am brynu 2 fws mini a chyflogi Gweithiwr Cyswllt Trafnidiaeth Gymunedol.  

Yng Nghymoedd De Cymru, bydd Cymdeithas Dai Cynon Taf yn Rhondda Cynon Taf yn gwario £209,941 i ddatblygu cynllun peilot Time Bank yn cyflogi Cydlynydd ac yn darparu cyllideb tuag at wobrau a gweithgareddau.

Yn Abertawe, nod Eglwys Methodist y Mwmbwls yw gwario eu dyfarniad o £69,950 i gyflwyno rhaglen o sesiynau dysgu i deuluoedd mewn neuaddau cymunedol yn y Mwmbwls, Penlan a Brynhyfryd yn Abertawe. Nod y prosiect yw helpu ac annog gwahanol aelodau'r teulu i weithio'n agos gyda'i gilydd, mewn lleoliad cymunedol hamddenol a phleserus.

Bydd pobl hŷn yn elwa o’r dyfarniadau hefyd. Bydd Family Housing Association (Cymru) Ltd, sy’n gwasanaethu Abertawe gyfan, yn gwario £151,658 ar brosiect i ddodrefnu a chyfarparu nifer o leoedd mewn datblygiad tai ar gyfer pobl hŷn sy’n byw ym Mharc Sgeti, Abertawe.  Bydd y lleoedd yn cynnwys neuadd gymunedol, ystafell iechyd a ffitrwydd, ystafell gyfrifiaduron a llyfrgell, ystafell adnoddau a chyfarfodydd, ystafell grefftau a hobïau a thŷ gwydr.  Bydd y lleoedd ar gael i denantiaid y datblygiad tai a phobl hŷn o’r gymuned leol a byddant yn darparu cyfleoedd sylweddol ar gyfer gweithgareddau hamdden, cymdeithasol a chymunedol, a fydd yn arwain at lai o unigrwydd, cynnydd mewn ymglymiad cymunedol, defnyddio sgiliau lleol a gwelliant mewn lles.

Mae prosiect sy’n anelu at gefnogi lles merched hefyd yn elwa o’r dyfarniadau. Bydd Prosiect KIM Cyf, sydd wedi’i leoli yn yr Wyddgrug, ond sy’n darparu gwasanaethau ar draws Sir y Fflint, yn defnyddio’i ddyfarniad o £245,256 ar gyfer prosiect a fydd yn darparu gwaith grŵp a chyfleoedd symud ymlaen gan ganolbwyntio ar iechyd a lles meddyliol a chorfforol merched yn Sir y Fflint sy’n profi pryderon iechyd meddwl cyffredin a salwch meddwl difrifol a pharhaus. Bydd gan y buddiolwyr well hunanymwybyddiaeth, hunan-barch, hunanhyder, sgiliau, cyfleoedd iechyd a bywyd ac ymwybyddiaeth o adferiad cynyddol ynghyd â strategaethau ar gyfer atal ailbylau.

Mae Cymorth i Fenywod, sy’n ymestyn dros Gymru gyfan, yn cynnig gwasanaeth ffôn ddwyieithog am ddim i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig neu rywun sy’n pryderu. Bydd grant o £223,810 gan y Gronfa Loteri Fawr yn cynnal ac yn hyrwyddo gwasanaeth Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Wrth sôn am yr effaith bositif y bydd y dyfarniadau yn ei chael ar gymunedau ledled Cymru, dywedodd Janet Reed, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pawb a'i Le:  “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Pawb a’i Le yn gwireddu ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais yn uniongyrchol a gadael etifeddiaeth barhaus. Rwy’n siŵr y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith bositif ar fywydau llawer o bobl yn y gymuned ac y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r rhaglen £66 miliwn Pawb a’i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5001 a £1 miliwn ar gyfer ystod eang o brosiectau cymunedol. Am wybodaeth bellach am y rhaglen Pawb a’i Le a sut y gallwch wneud cais am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch gyfleuster chwilio penodol ‘Cymru’.

Gwybodaeth pellach

Swyddfa’r Wasg Cronfa Loteri Fawr: 02920 678 207
Cyswllt y tu hwnt i oriau: 07760 171 431
Llinell Ymholiadau’r Cyhoedd: 08454 102 030
Ffôn destun:  0845 6021 659
Mae manylion llawn dyfarniadau grantiau a rhaglenni’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  • Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004.
  • Ar 1 Rhagfyr 2006 sefydlwyd y Gronfa Loteri Fawr yn swyddogol gan y Senedd ac ar yr un pryd cymerodd gyfrifoldebau gweddilliol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol), Cronfa Cyfleoedd Newydd, a’r Comisiwn Mileniwm a ddiddymwyd. Mae’r Gronfa yn adeiladu ar brofiad a dulliau gweithredu gorau’r cyrff sydd wedi’u cyfuno er mwyn symleiddio ariannu'r ardaloedd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian y Loteri yn gwneud y defnydd gorau posibl o arian.  


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a lles
  • Pobl Ifanc
ADBORTH