- Area:
- Cymru
- Release date:
- 7 5 2012
Wrth drwsio pethau i bobl ifanc yng Nghymru ac ar draws y DU, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu £7,197,907 heddiw i'r Ymddiriedolaeth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (YDGC) ar gyfer 'Fixers'.
Bydd buddsoddiad y Gronfa Loteri Fawr yn galluogi'r YDGC i estyn 'Fixers', ei hymgyrch gweithredu cymdeithasol nodedig i bobl ifanc, ar draws Cymru a'r DU.
Mae 'Fixers' yn ymgyrch gweithredu cymdeithasol uchel ei chlod sy'n annog pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i newid pethau er gwell. Gall pobl ifanc ddewis a datblygu ymgyrchoedd a fydd yn ddefnyddiol i'r gymuned ac sy'n helpu pobl eraill.
Mae dros 5,000 o bobl ifanc yn Lloegr eisoes wedi cefnogi 600 o brosiectau 'Fixers' ac wedi cronni dros 100,000 awr o waith gwirfoddol rhyngddynt. Trwy gynyddu'r raddfa ar draws y DU, mae YDGC yn anelu at gynnwys tua 21,000 o gyfranogwyr pellach mewn prosiectau 'Fixers' dros gyfnod o bedair blynedd. Hyd yma mae pobl ifanc wedi dewis ystod eang o ymgyrchoedd ar broblemau y maent yn aml wedi cael profiad personol ohonynt, gan gynnwys mynd i'r afael ag ystrydebau negyddol o grwpiau lleiafrifol megis materion rhyw, hil, rhywioldeb ac iechyd meddwl.
Mae'r YDGC yn darparu cymorth ymarferol i helpu pobl ifanc i wireddu eu gweledigaeth a'r materion y maent eisiau cynyddu ymwybyddiaeth ohonynt ac ymgyrchu arnynt. Mae 'Fixers' yn creu digwyddiadau, gweithdai, cyhoeddiadau, ffilmiau, hysbysebion a phosteri fel ffordd o gyfleu eu neges. Maent yn mynd â'u hymgyrchoedd i ysgolion, clybiau ieuenctid, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a darparwyr gwasanaethau. Mae'r YDGC hefyd yn eu helpu i gyfleu eu negeseuon i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar bob lefel. Yn ogystal â hyn bydd nifer o storïau am ymgyrchoedd 'Fixers' yn cael eu darlledu ar newyddion rhanbarthol ITV ac yn cael eu darparu i orsafoedd teledu eraill megis y BBC a sianeli ar-lein, a chylchgronau cenedlaethol. Bydd 'Fixers' yn anelu at efelychu llwyddiannau pobl ifanc unigol sydd eisoes wedi dylanwadu ar bolisïau ac arfer yng Nghymru mewn nifer o ffyrdd:
- Yn Abertawe sefydlwyd y Tîm Cefnogi Pobl Ifanc Ethnig (EYST) yn 2005 gan grwp o bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig (BME), y mae pob un ohonynt o dan 25 oed. Gwnaethant sefydlu pwyllgor rheoli a dod o hyd i fudiadau i'w helpu, ac erbyn hyn, EYST yw'r mudiad ieuenctid BME blaenllaw yn Abertawe a Chymru i gefnogi pobl ifanc BME rhwng 11 a 25 oed.
- Trwy brosiect Dysgu gan Gymheiriaid Wrexham Foyer a Shelter Cymru a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, cymerodd 22 o bobl ifanc yng Ngogledd Cymru ran mewn prosiect a fu’n ymwneud â thai a digartrefedd. Gwnaethant gydweithio i ddyfeisio cyflwyniadau a deunyddiau dysgu ar gyfer eu cymheiriaid ar bwnc digartrefedd, gan ymgorffori eu profiadau eu hunain. Yna aethant i mewn i ysgolion i gyflwyno'r wybodaeth yr oeddent wedi'i pharatoi, gan rannu eu profiadau eu hunain o ddigartrefedd er mwyn addysgu pobl ifanc ar dai a digartrefedd. Ymgysylltodd yr addysgwyr cymheiriaid gyda mwy na 3200 o bobl ifanc, a gwnaethant dderbyn gwobrau a chlod am eu gwaith.
- Lloyd Coleman o Ben-y-bont ar Ogwr yw Cadeirydd ifanc y mudiad ieuenctid UCAN Productions a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae wedi ysbrydoli cannoedd o bobl ifanc ddall ac â nam ar y golwg i gymryd rhan yn y celfyddydau ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau cyfansoddiad (a recordiwyd gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC) ac a ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth i ddathlu gemau Olympaidd 2012. Mae’n fyddar ac â nam ar y golwg, ac mae’n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ar hyn o bryd.
Meddai Peter Ainsworth, Cadeirydd DU: "Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn hynod o falch o alluogi Fixers i ymwneud â llawer mwy o bobl ifanc trwy ehangu ar draws y DU. Mae Fixers eisoes wedi profi y gall wneud gwahaniaeth i bobl ifanc o fewn eu cymunedau trwy greu ymgyrchoedd arloesol sy'n mynd i'r afael â materion y maen nhw wedi'u dewis yn ogystal â helpu i newid ystrydebau negyddol. O ganlyniad i hyn mae pobl ifanc wedi mynd yn eiriolwyr cymunedol gwych ac mae cymunedau'n cael eu cryfhau i oresgyn rhwystrau trwy gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol cadarnhaol."
Meddai Margo Horsley, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus: “Mae Fixers yn cynnig cyfle i bobl ifanc ymdrin â mater y maent yn teimlo'n gryf ynglyn ag ef, ar yr amod eu bod yn gwneud gwahaniaeth i rywun arall. Mae rhyw 5,000 o bobl ifanc wedi rhoi eu llais i'r syniad, ond ar gyfer pob un ohonynt mae'r syniad yn perthyn iddynt hwy. Rwyf wedi fy narostwng gan yr ymdrech a'r ymrwymiad y mae'r bobl ifanc hyn wedi’u dangos wrth gyfrannu at gymdeithas yn eu ffyrdd unigol. Ar ran yr holl bobl ifanc rydym wedi cydweithio â nhw a'r rhai nad ydym wedi cwrdd â nhw eto, hoffem ddiolch i'r Gronfa Loteri Fawr am ein galluogi i gyrraedd pobl ifanc ym mhob cwr o'r DU”
* Enillodd dwy ffilm Fixers wobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol ym mis Mawrth 2011. Enillodd yr ymgyrch ddarlledu wobr delweddau cadarnhaol 2010 cylchgrawn Now, sef y wobr 'Best TV Coverage of Young People in Children and Young People'. Mae 'Fixers' unigol wedi ennill gwobrau lluosog o ganlyniad i'w prosiect.
I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr a sut y gallwch chi ymgeisio am arian, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk a defnyddiwch y cyfleuster chwilio penodol i Gymru.
Mwy o Wybodaeth
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Oswyn Hughes 02920 678 207
Cyswllt y tu allan i oriau: 07760 171 431
Dilynwch y Gronfa ar Twitter: www.twitter.com/biglotterywales
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
- Dyfarnwyd y grant i'r Ymddiriedolaeth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus fel rhan o broses caffael uniongyrchol y Gronfa Loteri Fawr.www.biglotteryfund.org.uk/index/funding-uk/solicited_applications.htm
- Mae mwy o wybodaeth ac astudiaethau achos ar gael yn www.fixers.org.uk
- Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100k y diwrnod mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £27 biliwn wedi’i godi a mwy na 370,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags