- Area:
- Cymru
- Release date:
- 1 8 2008
Gan goroni eu hymgyrch haf i ddathlu’r £100 miliwn sydd eisoes wedi ei ddosbarthu i bobl ifanc yng Nghymru, bydd y Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn cyrraedd Prifddinas Cymru yr wythnos hon. Byddant yn gofyn i bobl ifanc sut fydden nhw’n rhoi help llaw i’w cymuned pe bai ganddynt filiynau o bunnoedd o arian loteri i’w wario.
O Ddydd Sadwrn 2 Awst hyd Ddydd Sadwrn 9 Awst 2008 bydd y Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri yn mynychu maes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd i ymgynghori â phobl ifanc ac i ddathlu’r £100 miliwn sydd eisoes wedi ei ddosbarthu i ddatblygu gweithgareddau a gwasanaethau i bobl ifanc ledled y wlad.
Ers ffurfio’r Loteri Genedlaethol ym 1994, buddsoddwyd miliynau o bunnoedd o arian Loteri i wella bywydau pobl ifanc ar draws Cymru gyfan. Dyma’r daith olaf yn yr ymgyrch haf gyfan ‘Help Llaw’, y mae’r Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Treftadaeth y Loteri wedi ei ddefnyddio i nodi’r gwahaniaeth y maent wedi ei wneud ac i ymgynghori â phobl ifanc am yr hyn sy’n werthfawr iddynt a beth ellid ei wneud i wella’u cymunedau.
Lansiwyd yr ymgyrch yn ôl ym mis Mai yn Eisteddfod yr Urdd yn Llandudno, pan ymwelodd y ferch dywydd a’r cyflwynydd teledu, Sian Lloyd, â’r stondin i roi help llaw gyda’r bobl ifanc. Ym mis Gorffennaf, bu’r Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri yn gwisgo eu hesgidiau glaw, wrth iddyn nhw ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. A ble gwell i goroni’r ymgyrch nad yn un o wyliau mwyaf Cymru? Yn denu oddeutu 16,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, bydd digon o ddwylo ar gael.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, gwahoddir ieuenctid yn llythrennol i adael eu hôl ar Gymru trwy gyfrannu at y ‘Mur Help Llaw’ ar y stondin. Map mawr o Gymru yw’r ‘Mur Help Llaw’ a byddwn yn gofyn i’r bobl ifanc roi eu llaw ar ble maen nhw’n byw a thynnu amlinelliad ohono. O fewn eu hamlinelliad, byddant yn nodi eu barn am ble gellid gwario arian loteri i wella eu cymunedau. Bydd y dystiolaeth a gesglir gan yr ieuenctid ym mhob gŵyl yn cael ei ddefnyddio gan y Gronfa Loteri Fawr wrth lunio rhaglenni grant yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cyfrannu at gynllun gweithredu cyfranogiad ieuenctid a gwaith hunaniaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri.
I gyd fynd â’r ymgyrch mae’r Gronfa Loteri Fawr hefyd wedi cynhyrchu rhifyn arbennig o’i gylchgrawn Newydd Mawr, bydd y cylchgrawn ar gael am ddim ac yn llawn o erthyglau am fuddsoddiad sylweddol i wasanaethau pobl ifanc yng Nghymru. Ac yn well fyth, gall y darllenwyr roi cynnig ar gystadleuaeth wych i ennill un o dri i-Pod.
Mae rhoi cynnig ar y gystadleuaeth yn hawdd iawn. Yr oll sydd angen i ymgeiswyr ei wneud yw nodi eu syniadau am ble gellid gwario arian Loteri yn eu hardal. Bydd manylion pellach ar gael yn y cylchgrawn.
Wrth wneud sylwadau ar y pwysigrwydd o ymgynghori gydag ieuenctid, dywedodd Mike Theodoulou, Aelod o Bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor Pobl Ifanc: “Mae ein hymrwymiad i ddarparu etifeddiaeth barhaol ar gyfer pobl ifanc yn amlwg. Dros y blynyddoedd rydym wedi helpu miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru gyfan i sylweddoli eu potensial a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau. Ni fyddwn yn datblygu ein rhaglenni ar ein pen ein hunain ac rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd siarad â, ac yn bwysicach, gwrando ar farn pobl ifanc. Dyna pam ry’n ni wedi cymryd y cyfle hwn dros fisoedd yr haf i ofyn i bobl ifanc beth yw eu barn a bydd y rhain yn cael eu bwydo i mewn i raglenni ariannu’r dyfodol. Bydd yr ymgyrch yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni o’r materion allweddol sydd angen eu hannerch ac i benderfynu pa geisiadau fydd yn cael eu cefnogi yng Nghymru. Mae’r neges yn syml - os oes gan unrhyw un farn am sut dylid gwario arian loteri i wella eu hardal - ry’n ni am eu clywed nhw. A phwy a ŵyr efallai gallent ennill i-Pod yn y fargen?”
Dywedodd Stephen Barlow, sy'n rheoli rhaglen Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Rydym yn gweld ac yn clywed llawer o storiâu negyddol am bobl ifanc yn ein cymunedau. Ond, yn aml iawn nid ydym yn clywed am y storiâu newyddion da a'r cyfraniad positif iawn y mae'r mwyafrif o'n pobl ifanc yn ei wneud i wella bywyd cymunedau. Trwy'r prosiectau yr ydym wedi eu cefnogi, rydym wedi gweld fod pobl ifanc yn wirioneddol bryderu am y mannau ble maent yn byw, sut mae eu cymunedau yn gwneud iddynt deimlo ac yn fwy na hynny, eu bod yn ymwybodol fod eu gwreiddiau yn bwysig i helpu i siapio pwy ydynt fel pobl”.
Gwybodaeth pellach
Swyddfa Wasg Cronfa Loteri Fawr– Oswyn Hughes: 02920 678 207
Cyswllt tu allan i oriau swyddfa : 07760 171 431
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102 030
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn am raglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
- Yng Nghymru, mae’r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu’n agos at £1 miliwn mewn arian achosion da y Loteri bob wythnos ac mae hynny’n golygu ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri ar draws Cymru bod rhan fwyaf o bobl o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariannir gan y Loteri
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, y mwyaf o ddosbarthwyr arian achosion da y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dosbarthu grantiau i achosion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol ledled y Deyrnas Unedig ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2004. Fe’i sefydlwyd gan y Senedd ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt y mae’r cyhoedd wedi’i wario wedi mynd at Achosion Da. O ganlyniad, mae dros £20 biliwn bellach wedi’i godi a mwy na 300,000 o grantiau wedi’u dosbarthu i'r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags