Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cronfa Cymunedau'r Arfordir

Yn hyrwyddo twf economaidd a swyddi cynaliadwy mewn cymunedau'r arfordir
Ardal:
DU gyfan
Terfyn amser ymgeisio:
13/05/2013 00:00:00

Ynglŷn â Chronfa Cymunedau'r Arfordir

Bydd Cronfa Cymunedau'r Arfordir (CCA) yn annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol y DU trwy ddarparu ariannu er mwyn iddynt greu twf a swyddi economaidd cynaliadwy.

Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo £27.8 miliwn i gefnogi CCA yn 2013/14 gydag arian a gynhyrchwyd gan asedau morol Ystadau'r Goron. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cyflwyno CCA ar ran y Llywodraeth, yn gweithredu o dan enw'r Gronfa Fawr.

Mae CCA yn rhaglen DU gyfan ond mae rhai gofynion a blaenoriaethau sy'n benodol i'r gwledydd. Mae gwybodaeth am y rhain wedi'i chynnwys yn y nodiadau cymorth sy'n cyd-fynd â'r ffurflen gais - ar gael ar y wefan hon.

Mae dyfarniadau ariannu o fwy na £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at ddwy flynedd. Gall y mathau canlynol o fudiadau ymgeisio:

  • elusennau
  • mudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol
  • mentrau cymdeithasol, gan gynnwys cydweithfeydd a mentrau sy’n eiddo i’r gymuned
  • awdurdodau lleol
  • awdurdodau datblygu yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • partneriaethau menter leol yn Lloegr
  • cwmnïau'r sector preifat.

Dyddiadau agor a chau ar gyfer 2013/14

Mae Cronfa Cymunedau'r Arfordir bellach wedi dod i ben ar gyfer 2013. Mae'r ceisiadau rownd gyntaf yn cael eu hasesu a bydd y ceisiadau cryfaf yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn yn haf 2013.

 

Pryd caiff yr ariannu ei gyhoeddi?

Byddwn yn anelu at roi penderfyniad i chi erbyn y dyddiadau a ganlyn:

 

Prosiectau yng Nghymru - diwedd Medi 2013
Prosiectau yn Lloegr - Ionawr 2014
Prosiectau yng Ngogledd Iwerddon - Rhagfyr 2014
Prosiectau yn Yr Alban - Rhagfyr 2013

 

Pryd gallaf ymgeisio i'r rhaglen?

Lansiwyd Cronfa Cymunedau'r Arfordir yn 2012 ac mae i fod i redeg yn y lle cyntaf fel a ganlyn:

 

Blwyddyn un - Ebrill 2012 i Fawrth 2013
Blwyddyn dau - Ebrill 2013 i Fawrth 2014
Blwyddyn tri - Ebrill 2014 i Fawrth 2015

 

Mae'n debygol y bydd ffocws y rhaglen yn newid bob blwyddyn wrth i ddyfarniadau gael eu gwneud ac wrth i faterion polisi newydd ddod i'r amlwg, ond bydd yr un nod trosgynnol yn parhau. Bydd yr ariannu sydd ar gael yn 2014/15 yn cael ei gyhoeddi yn 2014 ar y wefan hon.

Manylion prosiectau a ariennir gan CCA ym mlwyddyn un

Cynhyrchodd y rhaglen gryn dipyn o ddiddordeb ym mlwyddyn un a gwnaethom dderbyn llawer mwy o geisiadau nag y gallem eu hariannu. Blaenoriaethwyd ceisiadau a oedd yn gallu dangos y canlynol:

  • Allbynnau clir y gellir darparu tystiolaeth ohonynt
  • Creu swyddi (yn enwedig swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol a gyflwynwyd o fewn graddfa amser y prosiect)
  • Gallu i gyflwyno canlyniadau o fewn graddfa amser y prosiect
  • Cynaladwyedd gweithgareddau a'r effaith dros y tymor hwy.

I gael gwybod pa brosiectau a gafodd eu hariannu yn y flwyddyn gyntaf o CCA, cliciwch yma.

Cymorth gwladol

Mae Cymorth Gwladol yn derm cyfreithiol sy'n deillio o gyfamod yr Undeb Ewropeaidd sy'n disgrifio cymorth ariannol i fudiadau sy'n cyflawni gweithgarwch economaidd (p'un ai er elw ai beidio), a allai ystumio cystadleuaeth.

Byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr hunanwerthuso sut mae eu prosiect yn cydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladol Ewropeaidd. Mae mwy o wybodaeth am reolau Cymorth Gwladol ar gael yma

Dylai ymgeiswyr wybod hefyd bod rheolau Cymorth Gwladol yn bodoli i ddiogelu cystadleuaeth o fewn y sectorau pysgodfeydd, acwafeithrin ac amaethyddiaeth ac y gallent gyfyngu i ba raddau y gall CCA gefnogi prosiectau economaidd.

Ymholiadau

Cysylltwch â'n llinell ymholiadau ar 0300 123 0735 neu anfonwch e-bost atom yn ccf@bigfund.org.uk


Tagiau

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • Mudiad sector cyhoeddus
  • Mudiad sector preifat
ADBORTH