Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ymddiriedolaeth Cyfran Deg

Collodd rhannau o'r DU allan ar arian Loteri. Mae Cyfran Deg yn helpu i gywiro hynny
Ardal:
Cymru
Gogledd Iwerddon
Lloegr
Maint yr ariannu:
£5,000 - £250,000
Cyfanswm ar gael:
£50,000,000
Terfyn amser ymgeisio:
Gweld manylion y rhaglen

Beth yw amcan y rhaglen?

Mae rhai rhannau o'r DU wedi colli allan ar arian Loteri yn y gorffennol. Mae Cyfran Deg wedi bod yn helpu i newid hynny.

Mae'r Ymddiriedolaeth Cyfran Deg yn ymddiriedolaeth gwerth £50 miliwn sy'n darparu ariannu parhaus mewn Ardaloedd Cyfran Deg tan 2013. Y

Rhwydwaith Sefydliadau Cymunedol yw'r unig ymddiriedolwr yn y DU ac mae wedi penodi asiantau cyflwyno mewn pob un o'r ardaloedd Cyfran Deg. Mae cymdogaethau penodol ym mhob ardal yn derbyn cefnogaeth a dargedir gan yr asiantau hyn, ac mae pobl leol yn cael cyfle i wneud penderfyniadau ar sut y caiff yr arian ei wario.

Gyda 77 o ardaloedd wedi'u targedu, Cyfran Deg oedd y fenter gyntaf ar y cyd rhwng y Gronfa Cyfleoedd Newydd a'r Gronfa Gymunedol - sydd bellach wedi cyfuno i ffurfio'r Gronfa Loteri Fawr. Yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg yw'r llinyn olaf sy'n weddill o'r fenter hon.

Nod yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg yw:

  • Adeiladu Gallu a Chynaladwyedd trwy gynnwys cymunedau lleol mewn gwneud penderfyniadau am arian Loteri.
  • Adeiladu Cyfalaf Cymdeithasol trwy greu cysylltiadau o fewn cymunedau a rhyngddynt er mwyn hyrwyddo ymddiriedaeth a chymryd rhan.
  • Gwella bywydau trwy wella'r amgylcheddau y mae cymunedau'n byw ynddynt.

Gallwch gael gwybod mwy ar wefan yr Ymddiriedolaeth Cyfran Deg ac ar ein gwe-dudalen gwerthuso Cyfran Deg ein hunain.


Tagiau

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Themâu

  • Cymunedau Cryfach
ADBORTH