HafanAriannuPorwr ariannu Forces in Mind Yn cefnogi lles seicolegol cyn-filwyr a'u teuluoedd, a'u helpu i symud yn llwyddiannus i fywyd fel sifiliaid Tweet Ardal:DU gyfanTerfyn amser ymgeisio:02/02/2011 00:00:00 Amcan Forces in Mind yw cefnogi lles seicolegol cyn-filwyr a'u teuluoedd, a'u helpu i symud yn llwyddiannus i fywyd fel sifiliaid. Mae'r rhaglen hon yn adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol i gyn-filwyr trwy raglenni fel Arwyr yn Ôl, ac mae'n canolbwyntio ar gyn-filwyr o ryfeloedd mwy diweddar. Bydd yn helpu cyn-filwyr sy'n ei chael hi'n anodd symud i fywyd fel sifiliaid, gan gynnwys y rhai y mae eu lles seicolegol yn effeithio ar eu hansawdd bywyd eu hunain a'r bobl o'u cwmpas. Rydym am ddarparu cefnogaeth hir dymor sy'n cefnogi ac yn gweddu i'r gwaith gwerthfawr a wneir eisoes gan ystod o fudiadau. I wneud hyn, mae partneriaeth a arweinir gan y Conffederasiwn Mudiadau Milwyr a Chyn-filwyr Prydain (COBSEO) wedi sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol DU gyfan newydd a fydd yn buddsoddi ac yn gwario £35 miliwn dros yr 20 mlynedd nesaf. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cobseo.org.uk/forces-in-mind
Ardal:DU gyfanTerfyn amser ymgeisio:02/02/2011 00:00:00 Amcan Forces in Mind yw cefnogi lles seicolegol cyn-filwyr a'u teuluoedd, a'u helpu i symud yn llwyddiannus i fywyd fel sifiliaid. Mae'r rhaglen hon yn adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol i gyn-filwyr trwy raglenni fel Arwyr yn Ôl, ac mae'n canolbwyntio ar gyn-filwyr o ryfeloedd mwy diweddar. Bydd yn helpu cyn-filwyr sy'n ei chael hi'n anodd symud i fywyd fel sifiliaid, gan gynnwys y rhai y mae eu lles seicolegol yn effeithio ar eu hansawdd bywyd eu hunain a'r bobl o'u cwmpas. Rydym am ddarparu cefnogaeth hir dymor sy'n cefnogi ac yn gweddu i'r gwaith gwerthfawr a wneir eisoes gan ystod o fudiadau. I wneud hyn, mae partneriaeth a arweinir gan y Conffederasiwn Mudiadau Milwyr a Chyn-filwyr Prydain (COBSEO) wedi sefydlu ymddiriedolaeth annibynnol DU gyfan newydd a fydd yn buddsoddi ac yn gwario £35 miliwn dros yr 20 mlynedd nesaf. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cobseo.org.uk/forces-in-mind