Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cymunedau Rhyngwladol

Ardal:
DU gyfan
Gwledydd y tu allan i'r DU
Maint yr ariannu:
£50,000 - £500,000
Cyfanswm ar gael:
Hyd at £80 miliwn
Terfyn amser ymgeisio:
Gweld manylion y rhaglen

Beth yw amcan y rhaglen?

Mae'r rhaglen Cymunedau Rhyngwladol yn helpu cymunedau difreintiedig ledled y byd. Mae gan Gymunedau Rhyngwladol gyllideb o hyd at £80 miliwn rhwng 2010 a 2015.

Am beth rydym ni'n chwilio?

Rydym eisiau i gymunedau fod wrth wraidd Cymunedau Rhyngwladol. Byddwn yn ariannu prosiectau effeithiol sy'n mynd i'r afael ag achosion tlodi ac amddifadedd ac sy'n gwneud gwahaniaeth hir dymor i fywydau'r bobl fwyaf difreintiedig yn y byd. Bydd y rhain yn arwain at y canlyniadau a ganlyn ar gyfer y rhaglen:
  • Addysg gynradd well ar gyfer y bechgyn a'r merched mwyaf difreintiedig
  • Iechyd gwell ar gyfer y bobl fwyaf difreintiedig
  • Gwell mynediad i, a defnydd o, adnoddau naturiol er lles y bobl fwyaf difreintiedig
  • Gwella gallu'r bobl fwyaf difreintiedig i wneud y defnydd mwyaf o'u hawliau dynol
  • Gwella bywoliaethau'r bobl fwyaf difreintiedig trwy alluogi cymunedau gwledig a threfol mewn angen i leihau tlodi mewn ffordd gynaliadwy.

Pwy all ymgeisio?

Mae Cymunedau Rhyngwladol yn agored i fudiadau anllywodraethol seiliedig yn y DU a mudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol sy'n gweithio gyda phartner(iaid) tramor yn Affrica, Asia (gan gynnwys rhai o wledydd y Môr Tawel a Chanol Asia), y Dwyrain Canol, Canol a De America, y Caribî a rhannau o Ddwyrain Ewrop (ac eithrio gwledydd sy'n aelodau o'r UE a gwledydd sy'n ymuno).

Beth gallwch chi ymgeisio amdano?

Byddwn yn talu am:

  • Grant rhwng £50,000 a £500,000 ar gyfer prosiectau refeniw sy'n para rhwng dwy a phum mlynedd ac sy'n cyflawni o leiaf un o ganlyniadau'r rhaglen
  • Arian datblygu o hyd at £10,000 i gyfrannu at gost paratoi cynllun busnes manwl a ffurflen gais cam dau
  • Arian datblygu hyd at £5,000 i adeiladu gallu'r mudiad a leolir yn y DU mewn meysydd cyflwyno prosiect allweddol
  • Costau microgyllid hyd at 20% o gyfanswm gwerth y grant.

Ond ni fyddwn yn talu am:

  • Ddadansoddiad o anghenion ar gyfer prosiectau, gan y dylai hyn fod wedi'i wneud cyn cyflwyno cais cam un
  • Parhau â gweithgareddau cyfredol
  • Prosiectau nad ydynt yn gweithio gydag o leiaf un partner annibynnol seiliedig yn y wlad sy'n lleoliad y buddiolwyr
  • Prosiectau sy'n cynnwys buddiolwyr o'r DU
  • Costau rhedeg craidd
  • Gweithgareddau sy'n hyrwyddo credoau crefyddol neu ddiffyg credoau crefyddol
  • Costau cyfalaf sy'n fwy na £50,000.

Tagiau

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol
ADBORTH