HafanAriannuPorwr ariannuArian i Bawb Cymru Arian i Bawb Cymru Ffordd syml i grwpiau gwirfoddol a chymunedol gael grantiau bach y Loteri Genedlaethol Tweet Ardal:CymruMaint yr ariannu:£500 - £5,000Cyfanswm ar gael:Tua £3M y flwyddynTerfyn amser ymgeisio:Gweld manylion y rhaglen Beth yw amcan y rhaglen? Mae Arian i Bawb yn ddarparu ffordd gyflym a hwylus i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ddod o hyd i grantiau bach rhwng £500 a £5,000 gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau sydd â'r nod o wella cymunedau lleol a bywydau'r bobl fwyaf anghenus. Mae'r rhaglen yn annog ystod eang o brosiectau cymunedol, iechyd, addysgol ac amgylcheddol. Am beth rydym ni'n chwilio? Byddwn yn ariannu prosiectau sy'n cefnogi gweithgareddau cymunedol, yn estyn mynediad a chyfranogiad, yn cynyddu sgiliau a chreadigrwydd neu'n gyffredinol yn gwella ansawdd bywydau pobl yn yr ardal. Pwy all ymgeisio? Gallwch ymgeisio i Arian i Bawb dim ond os ydych yn grŵp cymunedol, grŵp nid er elw, Cyngor Cymuned neu Dref, corff Iechyd neu ysgol. Nid oes angen i chi fod yn elusen gofrestredig i ymgeisio i Arian i Bawb. Beth gallwch chi ymgeisio amdano? Byddwn yn talu am weithgareddau gan gynnwys: cynnal digwyddiad, gweithgaredd neu berfformiad prynu cyfarpar neu ddeunyddiau newydd cynnal cyrsiau hyfforddi sefydlu prosiect peilot neu grŵp newydd teganau a gemau addysgol a chyfarpar technoleg gwybodaeth talu treuliau gwirfoddolwyr, costau gweithwyr sesiynol neu ffioedd proffesiynol costau cludiant ac adnewyddu. Ond ni fyddwn yn talu am: gweithgareddau sy'n digwydd neu'n dechrau cyn i ni gadarnhau'r grant unrhyw gostau rydych yn eu cael wrth lunio eich cais costau rhedeg o ddydd i ddydd (er enghraifft biliau nwy a thrydan, treth y cyngor, rhent ac yswiriant) costau wrth gefn gwaddolion astudiaethau dichonoldeb gweithgareddau codi arian ar gyfer eich mudiad chi neu fudiadau eraill eitemau sydd o fudd pennaf i unigolion (er enghraifft cyfarpar nad yw'n cael ei rannu) gweithgareddau cyfredol a digwyddiadau rheolaidd neu fynych gan gynnwys y rhai rydym wedi'u hariannu'n flaenorol. Dogfennau cysylltiedig Ffurflen gaisFfurflen gais (print bras)Nodiadau arweiniadNodiadau arweiniad (print bras)Telerau ac Amodau grantiauCanllaw i dderbyn cynnig grant amodolMaterion CydraddoldebLlywodraethu DaRheoli eich prosiect yn ddwyieithog TagiauMath o fudiadMudiad gwirfoddol neu gymunedol ThemâuPlant a phobl ifanc Cefnogi Newidiadau Cadarnhaol Cymunedau Cryfach Iechyd a lles Yr Amgylchedd Addysg, Dysgu a Sgiliau BuddiolwyrBME Gofalwyr Plant Teuluoedd Pobl Ddigartref LGBT Heb fod Mewn Addysg Cyflogaeth neu Hyfforddiant Troseddwyr Carcharorion a Chyn-droseddwyr Pobl Hŷn Pobl sy'n byw mewn gofal/gadael gofal Pobl o dan anfantais addysgol Pobl ag incwm isel neu heb incwm Pobl ag iechyd corfforol gwael Pobl ag Anableddau Pobl â phroblemau iechyd meddwl Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Camddefnyddwyr Sylweddau Teithwyr Cyn-filwyr Dioddefwyr Troseddu Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol Pobl Ifanc
Ardal:CymruMaint yr ariannu:£500 - £5,000Cyfanswm ar gael:Tua £3M y flwyddynTerfyn amser ymgeisio:Gweld manylion y rhaglen Beth yw amcan y rhaglen? Mae Arian i Bawb yn ddarparu ffordd gyflym a hwylus i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ddod o hyd i grantiau bach rhwng £500 a £5,000 gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau sydd â'r nod o wella cymunedau lleol a bywydau'r bobl fwyaf anghenus. Mae'r rhaglen yn annog ystod eang o brosiectau cymunedol, iechyd, addysgol ac amgylcheddol. Am beth rydym ni'n chwilio? Byddwn yn ariannu prosiectau sy'n cefnogi gweithgareddau cymunedol, yn estyn mynediad a chyfranogiad, yn cynyddu sgiliau a chreadigrwydd neu'n gyffredinol yn gwella ansawdd bywydau pobl yn yr ardal. Pwy all ymgeisio? Gallwch ymgeisio i Arian i Bawb dim ond os ydych yn grŵp cymunedol, grŵp nid er elw, Cyngor Cymuned neu Dref, corff Iechyd neu ysgol. Nid oes angen i chi fod yn elusen gofrestredig i ymgeisio i Arian i Bawb. Beth gallwch chi ymgeisio amdano? Byddwn yn talu am weithgareddau gan gynnwys: cynnal digwyddiad, gweithgaredd neu berfformiad prynu cyfarpar neu ddeunyddiau newydd cynnal cyrsiau hyfforddi sefydlu prosiect peilot neu grŵp newydd teganau a gemau addysgol a chyfarpar technoleg gwybodaeth talu treuliau gwirfoddolwyr, costau gweithwyr sesiynol neu ffioedd proffesiynol costau cludiant ac adnewyddu. Ond ni fyddwn yn talu am: gweithgareddau sy'n digwydd neu'n dechrau cyn i ni gadarnhau'r grant unrhyw gostau rydych yn eu cael wrth lunio eich cais costau rhedeg o ddydd i ddydd (er enghraifft biliau nwy a thrydan, treth y cyngor, rhent ac yswiriant) costau wrth gefn gwaddolion astudiaethau dichonoldeb gweithgareddau codi arian ar gyfer eich mudiad chi neu fudiadau eraill eitemau sydd o fudd pennaf i unigolion (er enghraifft cyfarpar nad yw'n cael ei rannu) gweithgareddau cyfredol a digwyddiadau rheolaidd neu fynych gan gynnwys y rhai rydym wedi'u hariannu'n flaenorol. Dogfennau cysylltiedig Ffurflen gaisFfurflen gais (print bras)Nodiadau arweiniadNodiadau arweiniad (print bras)Telerau ac Amodau grantiauCanllaw i dderbyn cynnig grant amodolMaterion CydraddoldebLlywodraethu DaRheoli eich prosiect yn ddwyieithog TagiauMath o fudiadMudiad gwirfoddol neu gymunedol ThemâuPlant a phobl ifanc Cefnogi Newidiadau Cadarnhaol Cymunedau Cryfach Iechyd a lles Yr Amgylchedd Addysg, Dysgu a Sgiliau BuddiolwyrBME Gofalwyr Plant Teuluoedd Pobl Ddigartref LGBT Heb fod Mewn Addysg Cyflogaeth neu Hyfforddiant Troseddwyr Carcharorion a Chyn-droseddwyr Pobl Hŷn Pobl sy'n byw mewn gofal/gadael gofal Pobl o dan anfantais addysgol Pobl ag incwm isel neu heb incwm Pobl ag iechyd corfforol gwael Pobl ag Anableddau Pobl â phroblemau iechyd meddwl Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Camddefnyddwyr Sylweddau Teithwyr Cyn-filwyr Dioddefwyr Troseddu Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol Pobl Ifanc