Mae Rownd 1 a 2 ar gau bellach. Bydd Rownd 3 yn agor ar 3 Ebrill 2013.
Mae Awydd am Arloesi'n ymwneud yn benodol â chefnogi prosiectau newydd sy'n profi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol datblygol a phresennol. Bydd y rhaglen yn dyfarnu grantiau rhwng £20,000 ac £1 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at bum mlynedd.
Mae'n rhaid i brosiectau geisio cyflawni'r ddau canlyniad a ganlyn:
- Cyflwyno atebion newydd sy'n ymdrin yn well â phroblemau cymdeithasol datblygol a'r rhai y mae eu gwreiddiau'n ddwfn
- Defnyddir dysgu o ymagweddau arloesol i gyfeirio polisïau ac arfer ehangach.
Gallwn ddyfarnu grantiau i'r sectorau gwirfoddol, cymunedol, cyhoeddus a phreifat ond ni fyddwn yn cefnogi gweithgareddau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at elw mudiad preifat neu roi grantiau i unigolion. Mae'n rhaid i o leiaf 75% o'r buddiolwyr fyw yng Nghymru.
Rydym am ariannu prosiectau y mae eu syniadau'n rhai 'newydd', na roddwyd cynnig arnynt unrhyw le arall yn y DU. Trwy arloesol, golygwn brosiectau sy'n:
- creu mathau newydd o weithgareddau a gwasanaethau i fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol newydd neu ddatblygol
- creu ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblem gymdeithasol gyfredol.