Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dyfodol Disglair

Adeiladu gwydnwch emosiynol rhieni ifanc a phobl anabl ifanc er mwyn iddynt reoli newidiadau allweddol yn eu bywydau
Ardal:
Cymru
Maint yr ariannu:
£200,000 - £1 miliwn
Terfyn amser ymgeisio:
13/10/2011 17:00:00

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau bellach. Defnyddiwch y Porwr ariannu i chwilio am raglenni ariannu agored y gallai eich prosiect fod yn gymwys i ymgeisio iddynt.

O dan ein rhaglen Dyfodol Disglair, darparwyd £12 miliwn ar gyfer prosiectau ledled Cymru, gan weithio gyda rhieni ifanc a/neu bobl anabl ifanc rhwng 14 a 25 oed.

Darparodd y rhaglen rhwng £200,000 ac £1 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n para rhwng tair a phum mlynedd a geisiodd gyflawni'r canlyniadau a ganlyn:

  • Rhieni ifanc a/neu bobl anabl ifanc sy'n llai unig ac wedi cynyddu eu lles trwy rwydweithiau cymdeithasol gwell a pherthnasoedd cryfach
  • Cyflwynir gwasanaethau gwell sy'n gydlynol ac wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigol rhieni ifanc a/neu bobl anabl ifanc
  • Mae gan rieni ifanc a/neu bobl anabl ifanc well hyder a sgiliau i reoli newidiadau'n llwyddiannus a bywyd bywydau cyflawn ac actif
  • Defnyddir dysgu o'r rhaglen i gyfeirio polisïau, arfer a gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy'n profi newid yn y dyfodol.

Dogfennau cysylltiedig

  • pdf Doc
ADBORTH