
O dan y pennawd Gafael mewn Grant, bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn dyfarnu grantiau o hyd at £5,000 yr un i brosiectau a fydd yn helpu i wella bywydau pobl yn eu cymunedau lleol.
Trwy ein gwefan ni, gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thudalennau Newsline, papur newydd am ddim yr awdurdod lleol, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn galw ar grwpiau cymunedol i gyflwyno eu ceisiadau erbyn 12 hanner dydd ar ddydd Gwener 7 Mehefin, 2013. Yna bydd y gwefannau'n arddangos prosiectau ar y rhestr fer, gyda'r cefnogwyr yn pleidleisio dros eu ffefryn trwy bleidlais ar y we. Wedi hynny bydd grantiau'n cael eu dyfarnu i'r pum prosiect sy'n derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth.
Mae Gafael mewn Grant yn agored i unrhyw grŵp cymunedol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd â syniad ar gyfer prosiect a fydd yn cyflawni o leiaf un o'r canlyniadau a ganlyn:
- cefnogi gweithgareddau cymunedol
- estyn mynediad a chyfranogiad
- cynyddu sgiliau a chreadigrwydd
- gwella ansawdd bywydau pobl yn yr ardal yn gyffredinol.
Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis ar gyfer y bleidlais gyhoeddus yn ymddangos ar wefannau'r Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd angen i fudiadau sy'n ystyried ymgeisio gytuno i gyhoeddusrwydd gan fod hyn yn un o ofynion allweddol y rhaglen.