HafanAriannuPorwr ariannuPawb a'i Le Pawb a'i Le Yn ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw sy'n annog gweithredu cymunedol cydlynol Tweet Ardal:CymruMaint yr ariannu:£5,001 - £1,000,000Cyfanswm ar gael:Hyd at £20 miliwn bob blwyddynTerfyn amser ymgeisio:Gweld manylion y rhaglen Beth yw amcan y rhaglen? Bydd Pawb a'i Le'n ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw gyda'r nod o annog gweithredu cydlynol gan bobl sydd eisiau gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw. Byddwn yn cefnogi prosiectau lleol a rhanbarthol ar draws Cymru sy'n canolbwyntio ar: adfywio cymunedau gwella cysylltiadau cymunedol, neu wella amgylcheddau, gwasanaethau ac adeiladau cymunedol lleol. Mae Pawb a'i Le yn agored i geisiadau yn 2013 a than yr hysbysir fel arall. Bydd unrhyw newid i hwn yn cael ei gyhoeddi ar y wefan. Am beth rydym ni'n chwilio? Y prif nod yw dod â phobl ynghyd i greu gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus. Rydym eisiau i'ch prosiect gael ei arwain gan y gymuned - felly mae helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i ymwneud yn gynyddol â'u cymuned yn rhan annatod o'r rhaglen hon. Pwy all ymgeisio? O dan y rhaglen grant hon, byddwn ond yn dyfarnu grantiau i fudiadau sector gwirfoddol, cymunedol neu gyhoeddus sy'n gweithio naill ai ar eu pennau eu hunain neu gyda'i gilydd. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan fudiadau sydd wedi'u lleoli unrhyw le yn y DU. Er hynny, mae'n rhaid i brosiectau fod o fudd pennaf i bobl yng Nghymru. Dylai mudiadau nad ydynt yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd fedru dangos eu bod yn ymwybodol o faterion cymdeithasol a pholisi sy'n berthnasol i'r ardal leol ac i'r prosiect. Beth gallwch chi ymgeisio amdano? Bydd Pawb a'i Le'n ariannu prosiectau sy'n cefnogi gweithredu cydlynol gan bobl i wneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw. Bydd yn cefnogi prosiectau lleol a phrosiectau sy'n gweithredu mewn mwy nag un ardal ddaearyddol, yn rhanbarthol neu ledled Cymru. Nod Pawb a'i Le yw galluogi i gydweithio dros gymunedau cryfach, cyfiawnder cymdeithasol a gwell amgylcheddau gwledig a threfol. Dogfennau cysylltiedig Cyn i chi ymgeisio (PDF 328KB)Ffurflen cynnig amlinellol (PDF 1.1MB)Arweiniad tir ac adeiladau (PDF 1.8KB)Cwestiynau cyffredin (PDF 31KB)Gweithio tuag at gymunedau cynaliadwy (PDF 113KB)Rheoli eich prosiect (PDF 140KB) TagiauMath o fudiadMudiad gwirfoddol neu gymunedol ThemâuYr Amgylchedd
Ardal:CymruMaint yr ariannu:£5,001 - £1,000,000Cyfanswm ar gael:Hyd at £20 miliwn bob blwyddynTerfyn amser ymgeisio:Gweld manylion y rhaglen Beth yw amcan y rhaglen? Bydd Pawb a'i Le'n ariannu prosiectau cyfalaf a refeniw gyda'r nod o annog gweithredu cydlynol gan bobl sydd eisiau gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw. Byddwn yn cefnogi prosiectau lleol a rhanbarthol ar draws Cymru sy'n canolbwyntio ar: adfywio cymunedau gwella cysylltiadau cymunedol, neu wella amgylcheddau, gwasanaethau ac adeiladau cymunedol lleol. Mae Pawb a'i Le yn agored i geisiadau yn 2013 a than yr hysbysir fel arall. Bydd unrhyw newid i hwn yn cael ei gyhoeddi ar y wefan. Am beth rydym ni'n chwilio? Y prif nod yw dod â phobl ynghyd i greu gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus. Rydym eisiau i'ch prosiect gael ei arwain gan y gymuned - felly mae helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i ymwneud yn gynyddol â'u cymuned yn rhan annatod o'r rhaglen hon. Pwy all ymgeisio? O dan y rhaglen grant hon, byddwn ond yn dyfarnu grantiau i fudiadau sector gwirfoddol, cymunedol neu gyhoeddus sy'n gweithio naill ai ar eu pennau eu hunain neu gyda'i gilydd. Byddwn yn derbyn ceisiadau gan fudiadau sydd wedi'u lleoli unrhyw le yn y DU. Er hynny, mae'n rhaid i brosiectau fod o fudd pennaf i bobl yng Nghymru. Dylai mudiadau nad ydynt yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd fedru dangos eu bod yn ymwybodol o faterion cymdeithasol a pholisi sy'n berthnasol i'r ardal leol ac i'r prosiect. Beth gallwch chi ymgeisio amdano? Bydd Pawb a'i Le'n ariannu prosiectau sy'n cefnogi gweithredu cydlynol gan bobl i wneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw. Bydd yn cefnogi prosiectau lleol a phrosiectau sy'n gweithredu mewn mwy nag un ardal ddaearyddol, yn rhanbarthol neu ledled Cymru. Nod Pawb a'i Le yw galluogi i gydweithio dros gymunedau cryfach, cyfiawnder cymdeithasol a gwell amgylcheddau gwledig a threfol. Dogfennau cysylltiedig Cyn i chi ymgeisio (PDF 328KB)Ffurflen cynnig amlinellol (PDF 1.1MB)Arweiniad tir ac adeiladau (PDF 1.8KB)Cwestiynau cyffredin (PDF 31KB)Gweithio tuag at gymunedau cynaliadwy (PDF 113KB)Rheoli eich prosiect (PDF 140KB) TagiauMath o fudiadMudiad gwirfoddol neu gymunedol ThemâuYr Amgylchedd