Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Camau Cynaliadwy

Mae hyd at £620,000 ar gael i ariannu prosiect unigol a fydd yn helpu i ddatblygu gallu a medr cymunedau ledled Cymru i weithredu ar newid yn yr hinsawdd
Ardal:
Cymru
Maint yr ariannu:
Un dyfarniad o hyd at £620,000
Cyfanswm ar gael:
£620,000
Terfyn amser ymgeisio:
04/11/2011 17:00:00

Ariennir  y rhaglen Camau Cynaliadwy gan arian sydd wedi gorwedd yn segur mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu yn y DU ers 15 mlynedd neu fwy. Mae'r ffordd yr ydym yn gwario'r arian hwn wedi cael ei phennu gan Gyfarwyddiadau Polisi a roddwyd i'r Gronfa Loteri Fawr gan Lywodraeth Cymru. Datblygwyd y rhaglen hon i gyflawni'r Cyfarwyddiadau hynny.

Mae gan y rhaglen hyd at £620,000 i ariannu prosiect unigol a fydd yn helpu i ddatblygu galluoedd a sgiliau cymunedau ar draws Cymru i gymryd camau ar newid hinsawdd. Mae'r prosiect llwyddiannus yn debygol o fod yn bartneriaeth a fydd yn creu cysylltiadau gyda chymunedau nad ydynt wedi gweithredu i fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid hinsawdd yn flaenorol neu'r rhai sydd wedi gweithredu i raddau bychain. Bydd yn cefnogi'r cymunedau hyn drwy ddarparu ystod helaeth o gyngor cychwynnol, hyfforddiant a chefnogaeth fentora.

Nod Camau Cynaliadwy yw:

Cefnogi cymunedau i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid hinsawdd drwy ddatblygu sgiliau, newid ymddygiad a hyrwyddo datblygu cynaliadwy ehangach.

Byddwn yn ariannu prosiect Cymru gyfan unigol a fydd yn cyflawni'r holl ganlyniadau rhaglen a ganlyn:

  • Mae gan fwy o gymunedau wybodaeth, sgiliau a galluoedd gwell a fydd yn rhoi cyfle iddynt:
    • gymryd camau i fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd,
    • cynyddu gwydnwch wrth wynebu newid hinsawdd, a
    • byw mewn ffordd fwy cynaliadwy

Dogfennau cysylltiedig

  • pdf Doc
  • pdf Doc
  • pdf Doc
ADBORTH