Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Uwch dîm rheoli

Cwrdd â'r Uwch dîm rheoli
Peter Wanless

Peter Wanless - Prif Weithredwr

Peter Wanless yw Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr ers 1 Chwefror 2008.

Mwy am Peter Wanless

"Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar yr holl waith a grëodd ystod ryfeddol o raglenni sy'n cynnwys cymunedau, dysgu, yr amgylchedd a lles. Rwy'n argyhoeddiedig y bydd ein pwyslais cryf ar gynnwys buddiolwyr a defnyddwyr yn sicrhau y gall y Gronfa Loteri Fawr greu newidiadau parhaus ar gyfer pobl a chymunedau ledled y DU"

Mae wedi goruchwylio datblygiad y "Farn Fawr - fframwaith strategol hyd at 2015" a'r pum portffolio ariannu oddi mewn iddo (Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a DU Gyfan). Yn ystod y cyfnod hwn mae'r Gronfa Loteri Fawr hefyd wedi mynd yn ddosbarthwr ariannu nad yw'n dod o'r Loteri nodedig. Mae wedi eirioli pwysigrwydd effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac ansawdd y profiad i gwsmeriaid, yn disgrifio rôl y dosbarthwr Loteri fel mwy na dim ond taflu arian allan o'r drws.

Yn flaenorol bu’n uwch Was Sifil  yn yr Adran Addysg, gan arbenigo mewn diwygio ysgolion.

Rhwng 1987 a 1998 gweithiodd Peter yn y Trysorlys, gan weithredu mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys Pennaeth Polisi Cyllid Preifat a Phrif Ysgrifennydd Preifat i dri Aelod Cabinet.

Mae Peter yn briod gyda mab deng mlwydd oed. Dyfarnwyd Cydymaith Urdd y Baddon (CB) iddo yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd  yn 2007 am wasanaeth cyhoeddus nodedig.

Linda Quinn

Linda Quinn - Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

Mae Linda'n gyfrifol am gyfathrebu corfforaethol, gan gynnwys y wasg, materion cyhoeddus, cyhoeddiadau a chyfryngau newydd, marchnata a gwybodaeth ac ymholiadau.

Mwy am Linda Quinn

"Rwy'n dwlu ar fy swydd. Rhan allweddol o'n cyfathrebu yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r holl waith gwych a wneir gan brosiectau sy'n derbyn arian Loteri. Mae'n hyfryd i weithio gyda phrosiectau'r Gronfa Loteri Fawr a helpu i arddangos y gwahaniaeth y gall ariannu ei wneud i gymunedau."

Yn flaenorol roedd hi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac yn Bennaeth Cyfathrebu'r Gronfa Cyfleoedd Newydd.

Cyn ymuno â'r Gronfa, roedd Linda'n Bennaeth Cyfathrebu'r Undeb Gweithwyr Cyfathrebu, lle helpodd i oruchwylio cyfuno'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr Swyddfa'r Post a gweithwyr telathrebu.

Roedd gyrfa hir Linda fel newyddiadurwraig yn ymwneud â swyddi uwch ar amrywiaeth o deitlau, gan gynnwys papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol.

Mark Cooke

Mark Cooke - Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Yn gyfrifydd siartredig, bu Mark yn Gyfarwyddwr Cyllid a Masnachu gynt Ffederasiwn Diwydiannau Argraffu Prydain (BPIF), oedd yn Gymdeithas Masnach y Flwyddyn 2003 y CBI.

Mwy am Mark Cooke

"Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl - rwyf am ei weld yn gwneud hynny hyd yn oed yn fwy effeithiol fel bod pob ceiniog yn cael ei wario’n dda"

Mae gan Mark ystod eang o brofiadau ar draws y sectorau masnachol ac nid er elw. Cyn BPIF roedd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyllid Cymdeithas y Defnyddwyr a'i chwmni cyhoeddi Which? Cyf.

Yn gynharach yn ei yrfa roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid Cymdeithas Tai New Islington a Hackney ac yn Rheolwr Ariannol cwmni ymgynghori mawr yn y sector gyhoeddus. Bu Mark hefyd yn gynghorydd mewn bwrdeistref yn Llundain.

Ceri Doyle

Ceri Doyle - Cyfarwyddwr Strategaeth Perfformiad a Dysgu

Cyn mynd yn Gyfarwyddwr Strategaeth, Perfformiad a Dysgu, bu Ceri yn Gyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Mwy am Ceri Doyle

"Ein nod yw ariannu prosiectau gwirioneddol flaengar sy'n grymuso pobl i drawsnewid eu hamgylchedd drwy wneud eu cymunedau yn llefydd gwell i fyw, gweithio a chwarae"

Mae profiad blaenorol Ceri’n cynnwys swyddi rheoli uwch mewn Llywodraeth Leol yn Yr Alban, sefydlu nifer o gwmnïau nid er elw yn cynrychioli buddiannau’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn perthynas â mynd i’r afael â diweithdra ac adfywio cymunedol.

Enwebwyd Ceri yn Fenyw y Flwyddyn Cymru yn 2005 a than 2008 bu'n un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Yn ddiweddar mae Ceri wedi ymuno â'r Grŵp Cynghori Gweinidogion ar Gyflwyno Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae hi’n aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynhwysiad Digidol.

Dharmendra Kanani

Dharmendra Kanani - Cyfarwyddwr Lloegr

Dharmendra yw Cyfarwyddwr Lloegr y Gronfa Loteri Fawr

Mwy am Dharmendra Kanani

"Rhoi pobl a chymunedau mewn rheolaeth. Cynyddu hyder, gwydnwch a chynaladwyedd y rhai mwyaf anghenus. Clymu bywyd dinesig trwy grantiau bach. Galluogi gobaith a chyfle i fudiadau sydd am wneud gwahaniaeth. Taflu goleuni ar yr hyn y mae angen ei newid a sut – hyn oll sy'n rhoi ystyr i weithio i’r Gronfa Loteri Fawr"

Cyn ymuno â'r Gronfa Loteri Fawr, roedd Dharmendra'n bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yr Alban ac yna cyfarwyddwr Gwledydd, Rhanbarthoedd a Chymunedau ledled Prydain Fawr, gan ail-lunio ei strwythur rhanbarthol; cyflwynodd Pwyllgorau Gwlad; datblygodd ymagwedd a pholisi'r Comisiwn at ffydd; materion pobl ifanc, sipiswn a theithwyr, lloches a mewnfudo; lluniodd a chyflwynodd 'Getting Results' - ariannu ar sail canlyniadau ar gyfer cyrff cydraddoldeb hiliol, a sefydlodd y fenter Safe Communities. Tan 1999 bu'n gyfarwyddwr cyrff cydraddoldeb hiliol yn Yr Alban a Llundain.

Mae wedi cadeirio nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Yr Alban a Llundain, ac wedi sefydlu mudiadau cymunedol amrywiol sy'n ymdrin â hyfforddiant cyflogaeth, mentora pobl ifanc, eiriolaeth gymunedol a thai cymdeithasol.

Mae Dharmendra wedi bod yn ymgynghorydd i nifer o fudiadau statudol a gwirfoddol, Gweithrediaeth Yr Alban a grwpiau gweinidogion Whitehall. Mae'n Gadeirydd Fforwm Arianwyr yr Alban ac yn aelod byrddau nifer o gyrff y celfyddydau yn Yr Alban.

John Rose

John Rose - Cyfarwyddwr Cymru

Mae John wedi gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd gynt ers mis Awst 2003.

Mwy am John Rose

"Mae'r prosiectau a ariannwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r bobl a'r cymunedau y maen nhw'n eu cefnogi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at helpu hynny i barhau, a sicrhau bod punt y loteri'n cael ei gwario'n dda."

Ar ôl dechrau fel Pennaeth Gweithrediadau yng Nghymru, aeth yn Bennaeth Rhaglenni yn ystod y cyfuno ac wedyn yn Ddirprwy Gyfarwyddwr, cyn dechrau ar ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol, ac yna Cyfarwyddwr, Cymru ym mis Medi 2010.

Cyn hyn mwynhaodd John brofiadau gwaith amrywiol, gan gynnwys gweithio fel cogydd a hyd yn oed gwerthu o ddrws i ddrws. Ar ôl teithio tramor am gyfnod, ymgymerodd ag Addysg Uwch fel myfyriwr aeddfed, gan astudio Systemau Amgylcheddol a Hydrobioleg Cymhwysol. Ar ôl graddio a chyn gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr, gweithiodd John yn y sector gwirfoddol am 4 blynedd cyn treulio cyfnod o 5 mlynedd gydag ENTRUST, y corff rheoleiddio sy’n gweithio ar y Cynllun Credydau Treth Tirlenwi, gan fod yn gyfrifol am Gymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De-orllewin Lloegr. Yn ei amser hamdden mae John yn mwynhau garddio, beicio a darparu gwasanaeth tacsi i’w blant.

Jackie Killeen

Jackie Killeen - Cyfarwyddwr Yr Alban

Mae Jackie wedi gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd gynt ers 2000.

Mwy am Jackie Killeen

"Gall y gwaith a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr gael effaith fawr ar fywydau’r bobl, y teuluoedd a’r cymunedau mwyaf anghenus. Yr her i ni yw adnabod, cefnogi a dysgu o’r prosiectau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf"

Fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus y Gronfa Loteri Fawr yn Yr Alban, roedd ei chylch gwaith yn cynnwys arwain ymgynghori, datblygu rhaglenni newydd, dysgu a gwerthuso a chyfranogiad ehangach ag arianwyr, y llywodraeth a budd-ddeiliaid eraill.

Roedd hi’n Bennaeth Polisi a Chysylltiadau Cyhoeddus y Gronfa Cyfleoedd Newydd, gan ddatblygu ystod helaeth o raglenni a rheoli tîm cyfathrebu’r Gronfa. Cyn hynny, gweithiodd Jackie ym maes adfywio ac yn y celfyddydau. Llenyddiaeth a diwylliant yw ei chefndir academaidd, ac mae hi’n aelod o fyrddau dwy elusen yn Yr Alban.

Joanne McDowell

Joanne McDowell - Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon

Penodwyd Joanne yn Gyfarwyddwr Gogledd Iwerddon y Gronfa Loteri Fawr ym mis Medi 2010.

Mwy am Joanne McDowell

"Yn ogystal â chwrdd ag amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, mae gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn rhoi cyfle i mi wrando ar y gwirfoddolwyr a’r buddiolwyr sy’n ymwneud â’r prosiectau a ariannwn. Mae hyn yn gyfle gwirioneddol a gwerthfawr i mi ddeall y gwahaniaeth y mae arian loteri’n ei wneud i gymunedau yng Ngogledd Iwerddon a ledled y DU"

Mae wedi gweithio i’r Gronfa ac un o’i rhagflaenwyr ers 11 mlynedd. Cyn ei phenodiad diweddaraf, bu’n gyfrifol am waith polisi, datblygu a materion cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr, bu Joanne yn ddarlithydd Astudiaethau Ewropeaidd a datblygu gwledig, a gweithiodd fel ymgynghorydd i brif gorff sector preifat yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gan Joanne Ddoethuriaeth o Brifysgol Wlster, mewn polisi cynllunio a newid deddfwriaethol yn Sbaen.

Joanne McDowell

Joanne McDowell - Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon

Penodwyd Joanne yn Gyfarwyddwr Gogledd Iwerddon y Gronfa Loteri Fawr ym mis Medi 2010.

Mwy am Joanne McDowell

"Yn ogystal â chwrdd ag amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, mae gweithio i’r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn rhoi cyfle i mi wrando ar y gwirfoddolwyr a’r buddiolwyr sy’n ymwneud â’r prosiectau a ariannwn. Mae hyn yn gyfle gwirioneddol a gwerthfawr i mi ddeall y gwahaniaeth y mae arian loteri’n ei wneud i gymunedau yng Ngogledd Iwerddon a ledled y DU"

Mae wedi gweithio i’r Gronfa ac un o’i rhagflaenwyr ers 11 mlynedd. Cyn ei phenodiad diweddaraf, bu’n gyfrifol am waith polisi, datblygu a materion cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn ymuno â’r Gronfa Loteri Fawr, bu Joanne yn ddarlithydd Astudiaethau Ewropeaidd a datblygu gwledig, a gweithiodd fel ymgynghorydd i brif gorff sector preifat yng Ngogledd Iwerddon.

Mae gan Joanne Ddoethuriaeth o Brifysgol Wlster, mewn polisi cynllunio a newid deddfwriaethol yn Sbaen.

ADBORTH