Yn 2011/12, roedd mwy na 77% o'r holl grantiau a ddyfarnwyd gennym ar gyfer prosiectau Arian i Bawb, ond at ei gilydd roedd y rhain i gyd gwerth dim ond 10% o'n hariannu.
O'i gymharu â'r ariannu sydd ar gael trwy raglenni eraill, mae Arian i Bawb yn cynnig mynediad i gefnogaeth ar gyfer ystod helaeth o grwpiau (rhai bach fel arfer) sy'n eu helpu i gyflawni eu nodau. Mae'r broses ymgeisio'n symlach ac mae'r grantiau'n llai.
Rydym yn gwybod bod Arian i Bawb yn adnabyddus ac yn boblogaidd, ond nid ydym yn gwybod llawer am y gwahaniaethau gwirioneddol a ddaw yn sgil y grantiau ac, yn wir, pa fathau o wahaniaethau sy'n bwysig i'r bobl sy'n elwa, i'r grwpiau sy'n ymgeisio i ni ac i arianwyr a gwneuthurwyr polisi eraill yn y sector gwirfoddol a chymunedol.
Felly yn rhan olaf 2012, penderfynwyd i gomisiynu partneriaeth rhwng Rocket Science a CM International i ymchwilio i:
- patrymau ymgeisio ac ariannu ar draws y pedair rhaglen Arian i Bawb (yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon), gan adnabod tueddiadau a bylchau;
- yr hyn y mae staff y Gronfa Loteri Fawr, arianwyr eraill, gwneuthurwyr polisi a mudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol yn ystyried ei fod yn bwysig am Arian i Bawb; ac
- yr hyn y mae ymgeiswyr a deiliaid grantiau Arian i Bawb yn ystyried ei fod yn bwysig - a sut brofiad y cawsant o gydweithio â ni.
Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau o'r broses hon i fireinio'r ffordd yr ydym yn rheoli ac yn deall Arian i Bawb ar draws y DU. Byddwn hefyd yn ystyried sut sicrhau ein bod yn cofnodi, yn adrodd ar ac yn mesur yr hyn sy'n bwysig ac yn berthnasol i grwpiau gwahanol. Dechreuodd yr astudiaeth ym mis Rhagfyr 2012 a bydd yn dod i ben yng ngwanwyn 2013.
Fel rhan o'r astudiaeth, bydd yr ymchwilwyr yn creu set o astudiaethau achos i ddangos sut mae grwpiau gwahanol wedi defnyddio ein hariannu, yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni, a sut mae ein cefnogaeth wedi effeithio arnynt a'u buddiolwyr yn fwy cyffredinol.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am yr astudiaeth a'i chanfyddiadau yma.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.