Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ymchwil

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio dysgu i fod yn ariannwr mwy effeithiol: dosbarthwr gwybodaeth yn ogystal ag ariannu, yn cefnogi ein deiliaid grantiau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r rhai mwyaf anghenus

Chwilio

Clear All
Ers 2003, cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol i ddilyn ac asesu llwyddiant y ddwy raglen sy’n rhan o Cyfran Deg, ac mae’r crynodeb hwn yn amlinellu’r casgliadau a’r cynnydd hyd yma. O ystyried y gwahaniaeth rhwng yr amserlenni, mae ffocws arbennig yr adroddiad hwn ar raglen y Gronfa Gymunedol, ond mae hefyd yn ystyried datblygiad rhaglen Ymddiriedolaeth Cyfran Deg y Gronfa Cyfleoedd Newydd.
Daw'r canfyddiadau hyn o werthusiad allanol o'r rhaglen Aduno Cyn-filwyr, a gwblhawyd gan Morris Hargreaves McIntyre. Cynhaliwyd 11 gwahanol fath o ymchwil gydag 81 o gyrff gan y gwerthuswyr, gan ymwneud â dros 1,500 o bobl. Hefyd cynhaliwyd arolwg o 761 o ymwelwyr i arddangosfa deithiol Eu Gorffennol - Eich Dyfodol mewn 29 o leoedd ledled y DU.
Mae adrannau iechyd ar draws y DU wedi nodi lleihau marwolaethau a achosir gan ganser a gwella gwasanaethau canser fel blaenoriaeth. Lansiwyd menter ganser y Gronfa ym 1999 a bydd yn rhedeg tan 2005. Fe’i datblygwyd i ymateb i dargedau a meysydd pwysig o weithgarwch a osodwyd ar gyfer pob gwlad yn y DU.Yn gyffredinol, mae’r rhain wedi canolbwyntio ar ymdrech i roi’r gofal sydd ei angen ar gleifion trwy wella prosesau canfod, atal, trin a gofal canser. Mae gwybodaeth bellach am rai o’r dogfennau polisi’n ymddangos mewn blwch ar wahân ar dudalen 4.
Mae’r rhaglen wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gyda 555,340 o leoedd yn cael eu creu ledled y DU. Roedd yr arolwg o bartneriaethau gofal plant yn dangos fod 57 y cant o’r holl ddarparwyr gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy’n gweithredu ar hyn o bryd wedi cael peth cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr gyda 68 y cant o grantiau yn cael eu defnyddio i agor darpariaeth newydd.
Er gwaethaf y nifer o arianwyr gwahanol a’r nifer arwyddocaol o arian arall gwelwyd yr arian o dan Trawsnewid Eich Gwagle i fod yn “sylfaenol”. Roedd yr arian Trawsnewid Eich Gwagle i’w weld i fod yn gatalydd mewn darganfod a diogelu ffynonellau arian eraill. Roedd Trawsnewid Eich Gwagle yn rhoi sicrwydd i arianwyr ac yn darparu arian a oedd yn bosibl ei gyfatebu ag arian arall.
Mae’r gwerthuswyr wedi edrych yn systematig ar draws y fenter canser i fynd i’r afael â’r nodau gwerthuso. Yn y flwyddyn gyntaf, datblygwyd typoleg prosiectau, gan fapio eu lleoliad yn erbyn gwahanol ddangosyddion i asesu i ba raddau yr oedd prosiectau wedi eu lleoli mewn ardaloedd difreintiedig lle’r oedd cyfradd uchel o achosion o ganser.
ADBORTH