Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Diogelu Data

Ceisiadau am ddata personol

Os byddwch yn ymgeisio am grant gennym ni, byddwn yn dweud wrthych fel rhan o'r broses ymgeisio sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth, ond gallwch weld ein polisi Diogelu Data isod.

Os ydych wedi ymgeisio am grant neu'n dal grant gyda ni, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni yn ystod yr asesiad ac yn ystod cyfnod eich grant (os caiff ei ddyfarnu) i weinyddu a dadansoddi grantiau ac at ein dibenion ymchwil ein hunain.

Mae’n bosib y byddwn yn rhoi copïau o ran neu’r cyfan o’r wybodaeth hon i unigolion a mudiadau rydym yn ymgynghori â nhw wrth asesu ceisiadau, gweinyddu'r rhaglen, monitro grantiau a gwerthuso prosesau ac effeithiau ariannu.  Gall y mudiadau hyn gynnwys cyfrifwyr, gwerthuswyr allanol a mudiadau neu grwpiau eraill sy’n ymwneud â chyflwyno’r prosiect. 

Mae'n bosib y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda mudiadau ac unigolion sydd â diddordeb dilys mewn ceisiadau a grantiau'r Loteri neu raglenni ariannu penodol.  Mae'n ddyletswydd arnom i ddiogelu arian cyhoeddus a chan hynny, mae'n bosib y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda dosbarthwyr eraill y Loteri, mudiadau sy'n darparu arian cyfatebol neu at ddibenion atal a chanfod twyll.

Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych er mwyn cyflawni gwiriadau adnabyddiaeth priodol. Gall gwybodaeth bersonol rydych yn ei darparu gael ei datgelu i asiantaeth cyfeirnod credyd neu atal twyll a fydd, o bosib, yn cadw cofnod o’r wybodaeth honno.

Os darperir gwybodaeth ffug neu anghywir mewn cais am ariannu ac mae twyll yn cael ei adnabod, bydd y manylion yn cael eu trosglwyddo i asiantaethau atal twyll er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian. Gallwch gael manylion pellach yn esbonio sut y gellir defnyddio'r wybodaeth a ddelir gan asiantaethau atal twyll trwy anfon e-bost at ein Pennaeth Llywodraethu Gwybodaeth yn diogeludata@cronfaloterifawr.org.uk, ffonio ein llinell gymorth ar 0300 123 0735 neu ysgrifennu at: Y Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, Cronfa Loteri Fawr, 1 Plough Place, Llundain EC4A 1DE.

Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r data rydych yn ei ddarparu at ddibenion ymchwil. Cydnabyddwn yr angen am gynnal cyfrinachedd grwpiau bregus ac ni chaiff eu manylion eu cyhoeddi mewn unrhyw ffordd oni bai bod y gyfraith yn mynnu bod hyn yn cael ei wneud.

Ymdrinnir â cheisiadau am ddata personol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Os ydych am wybod p'un a ydym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch ai beidio, dylech ysgrifennu at diogeludata@cronfaloterifawr.org.uk

Cyfeiriwch at y Ddeddf Diogelu Data yn eich cais.

Mae'n ofynnol i chi ddarparu prawf adnabod:

  • llungopi o dudalennau adnabod eich pasbort cyfredol
  • trwydded yrru â llun gyfredol
  • bil cyfleustodau gwreiddiol a chyfredol (er enghraifft, trydan), cyfriflen cerdyn credyd neu fanc sy'n cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad.

Os oes angen y dogfennau hyn yn ôl arnoch, byddwn yn eu dychwelyd atoch.

Byddai'n ddefnyddiol petaech yn gallu adnabod pa ran o'r Gronfa Loteri Fawr (pa adran, cyfarwyddiaeth neu swyddfa) y credwch sy'n cadw eich data er mwyn hwyluso'r chwilio. Gallwn atal mynediad i'ch gwybodaeth pan fo gennym yr hawl i wneud hynny o dan Ddeddf Diogelu Data 1998

 

ADBORTH