Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Sut i ymgeisio

Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn cyn ymgeisio

Ni allwch ymgeisio am swydd gyda ni gan ddefnyddio ffurflen bapur ac nid ydym yn derbyn CVs yn holi am waith.

Os oes gennych anabledd sy'n eich atal rhag cwblhau ffurflen ar-lein, ffoniwch y ddesg gymorth AD ar 0121 345 8884 neu anfonwch e-bost i HRhelpdesk@biglotteryfund.org.uk, a byddant yn falch o helpu.

Pan fyddwch yn ymgeisio, gofynnir i chi am dystiolaeth o'ch hawl i fyw a gweithio yn y DU ynghyd â geirdaon gan gyn-gyflogwyr.

Y ffurflen gais yw'r cyfle cyntaf i chi ddangos sut rydych yn bodloni'r gofynion o ran y sgiliau, yr wybodaeth, y profiad a'r ymddygiadau y mae eu hangen ar gyfer y swydd rydych yn ymgeisio amdani. Mae'n bwysig eich bod yn cyfeirio at yr hysbyseb wrth gwblhau eich ffurflen gais, i'ch atgoffa beth yw'r rôl a pha sgiliau, gwybodaeth, profiad ac ymddygiadau sy'n ofynnol. Bydd hyn yn cynyddu eich cyfle o gael eich gwahodd i gam nesaf y broses ddethol.

Cyfeiriwch at ein cyngor i ymgeiswyr Cyngor i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd i gael arweiniad ac awgrymiadau defnyddiol ar gwblhau eich cais.

Dim ond unwaith y mae angen i chi ymgeisio am swydd wag. O bryd i'w gilydd rydym yn cysylltu ag ymgeiswyr i esbonio, er nad ydynt wedi cael eu penodi i swydd benodol, y byddwn yn cadw eu manylion ar restr wrth gefn rhag ofn y bydd swyddi gwag tebyg yn codi.

Gallwch weld ein holl swyddi gwag parhaol ac ymgeisio ar-lein

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ymroddedig i ystyried ac ymdrin â materion cydraddoldeb ym mhob agwedd ar ei busnes, gan gynnwys sut rydym yn recriwtio ac yn cyflogi ein staff. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried anghenion a phrofiadau pobl o gefndiroedd gwahanol (er enghraifft, fesul rhyw, hil, anabledd a thueddfryd rhywiol) ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn osgoi trin pobl yn annheg yn gymaint â phosib.

Tic dwbl

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn falch o fod yn ddefnyddio symbol y tic dwbl ac yn ymrwymedig i gyfweld ag ymgeiswyr sydd ag anableddau os ydynt yn bodloni'r isafswm meini prawf ar gyfer swydd wag.

Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeisydd sydd ag anabledd ym mhob cam o'r broses ddethol. I'n cynorthwyo ni, dylai ymgeisydd sydd ag anabledd ddatgan bod ganddo/ganddi anabledd ar y ffurflen gais, a'n hysbysu am unrhyw ofynion.

Mwy o wybodaeth am y symbol tic dwbl

Mae gan y Gronfa Loteri Fawr fforwm anableddau sy'n agored i staff anabl a staff sydd â diddordeb mewn materion gysylltiedig ag anableddau at ddiben cefnogaeth, rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn falch o fod yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb Stonewall, gan gefnogi ein hymrwymiad i fod yn lle gwych i weithio ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryw (LGBT). Yn cydweithio'n agos â Stonewall, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi sefydlu rhwydwaith staff LGBT fel fforwm ar gyfer hyrwyddo cefnogaeth, rhannu gwybodaeth, dylanwadu ar bolisïau ac arferion y cwmni, ac ymdrin â materion LGBT yn y gwaith.
ADBORTH