Meddwl o'r newydd
Diwygio fframwaith strategol y Gronfa Loteri Fawr
Yn 2009 cyhoeddwyd Y Farn Fawr – ein Fframwaith Strategol hyd at 2015 ac Yr Hyn a Ddywedoch Wrthym, dadansoddiad manwl o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gan alw ar ddeunyddiau o'r arolwg ar-lein a'r cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod y tri mis o'r ymgynghoriad. Mae'r dogfennau hyn yn amlinellu'r egwyddorion sy'n sail i ymagwedd y Gronfa Loteri Fawr at ariannu yn y DU, yn rhan ganolog o'n gwaith, ac yn cyfeirio'r egwyddorion ariannu y maent yn ein harwain.
Fodd bynnag, mae'r byd wedi symud ymlaen ers hynny, o fewn y Gronfa Loteri Fawr ac yn y byd ehangach, ac felly y mae ein cynllun strategol. Mae Meddwl o'r newydd: Y Bennod Nesaf yn amlinellu sut rydym yn addasu i'r newidiadau hyn ac yn cynnig gweledigaeth glir o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni fel ariannwr hyd at 2015.
Mae Meddwl o'r newydd yn adeiladu ar yr egwyddorion a amlinellwyd yn y Farn Fawr. Erys ein cenhadaeth yr un peth, rydym yn ariannwr ar sail canlyniadau ymrwymedig a byddwn yn parhau i gynnig portffolio ariannu cymysg. Serch hynny, rydym hefyd yn ymgymryd â dulliau gweithio newydd fel buddsoddiad cymdeithasol, a thrwy gyflwyno ariannu gydag eraill gallwn wneud hyd yn oed yn fwy o wahaniaeth i gymunedau a bywydau'r bobl fwyaf anghenus
..