Cenhadaeth a gwerthoedd
Dod â gwir welliannau i fywydau a chymunedau
Ein gwerthoedd
Gwneud y defnydd gorau o arian Loteri
- trwy ariannu prosiectau sy'n fwyaf tebygol o wneud gwahaniaeth ble y mae ei angen
- trwy redeg ein gweithrediadau mewn ffordd mor effeithlon â phosib, a chan ddarparu gwasanaeth rhagorol ar yr un pryd
- trwy fod yn Ariannwr Deallus, gan olygu ein bod yn canolbwyntio ar effaith ein hariannu yn hytrach na'r broses yn unig.
Defnyddio gwybodaeth a thystiolaeth
- i ddatblygu rhaglenni newydd a gwneud penderfyniadau ariannu teg
- i ddeall anghenion cymunedau gwahanol a'r atebion ar eu cyfer
- i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein holl gynulleidfaoedd gan gynnwys ymgeiswyr a'r cyhoedd.
Bod yn gefnogol ac yn barod i helpu
- er mwyn helpu prosiectau da i lwyddo hyd yn oed os nad ydynt yn gyfarwydd ag ymgeisio am arian Loteri
- trwy wasanaeth ardderchog i gwsmeriaid
- trwy gefnogi ein staff i ddarparu cymorth a chefnogaeth i bob cynulleidfa.