Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu gwasanaeth dwyieithog

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd yng Nghymru. Ers 1994 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu mwy na £4 miliwn i gefnogi prosiectau Cymraeg sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau.

Rydym yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn annog pobl ddi-Gymraeg i ddysgu'r iaith. Mae llinell ymholiadau'r Gronfa Loteri Fawr wedi'i staffio gan siaradwyr dwyieithog, mae pob deunydd arweiniad ac ymgeisio ar gael yn ddwyieithog ac mae staff Cymraeg eu hiaith yn asesu ac yn rheoli grantiau ar gyfer grwpiau sydd wedi dewis i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar 23 Medi 2009 cymeradwywyd ein Cynllun Iaith Gymraeg newydd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'n esbonio 'y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru ac yn y broses o ddyfarnu grantiau.’

Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Mawrth 2012 ac fe'i disodlwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg newydd o dan Fesur y Gymraeg 2011, Mae Mesur y Gymraeg wedi sefydlu'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru ac y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Gronfa Loteri Fawr yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae'n ofynnol i grwpiau a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr weithio o fewn egwyddorion ein Cynllun Iaith Gymraeg hefyd.

Ar hyn o bryd mae'r Comisiynydd yn cynnal ymgynghoriad i set ddrafft o safonau a fydd yn monitro sut mae mudiadau'n glynu wrth y Mesur. Gallai hyn effeithio ar waith y Gronfa Loteri Fawr a'r mudiadau sy'n derbyn ariannu, ac arwain at newidiadau'n cael eu gwneud i Gynllun Iaith Gymraeg y Gronfa Loteri Fawr.

Os ydych am ymgeisio am ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, darllenwch ein harweiniad i gael gwybod am ein gofynion o dan y Cynllun Iaith Gymraeg. Darllenwch fanylion llawn ein Cynllun Iaith Gymraeg (PDF, 190kb).

I gael mwy o wybodaeth am weithdrefnau dwyieithog y Gronfa Loteri Fawr, cysylltwch ag Alec Porter, Swyddog Iaith Gymraeg, ar 029 2067 8246 neu Alec.porter@biglotteryfund.org.uk

I gael mwy o wybodaeth a chyngor ar weithio'n ddwyieithog, gweler gwefan Estyn Llaw neu ffoniwch (0800) 9177 969.

ADBORTH