Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Aelodau pwyllgor Cymru

Cwrdd ag aelodau pwyllgor Cymru
Syr Adrian Webb

Sir Adrian Webb - Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru

Yn Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg yn flaenorol, mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth arwain ar lefel rheoli gweithredol yn y sectorau cyhoeddus, nid er elw ac addysg.

Mwy am Sir Adrian Webb

"Mae'n anrhydedd cael fy ngofyn i arwain tîm hynod ymroddedig o staff, partneriaid a mudiadau a ariennir, sy'n gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau ledled Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyfle i gydweithio gyda chymheiriaid ar draws y DU fel aelod o Fwrdd DU y Gronfa Loteri Fawr"

Yn Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg yn flaenorol, mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth arwain ar lefelau anweithredol a gweithredol yn y sectorau cyhoeddus, nid er elw ac addysg. Mae wedi ymwneud â mentrau niferus Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cadeirio’r adolygiad annibynnol o addysg bellach yng Nghymru (adolygiad Webb) a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. Bu hefyd yn aelod o Adolygiad Beecham o Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhan o Banel Cynhyrchedd Gwasanaethau Cyhoeddus Trysorlys EM.
Janet Reed

Janet Reed - Aelod pwyllgor

Ymddeolodd Janet Reed o swydd Rheolwr Cenedlaethol Cymru Nwy Prydain yn 2005.

Mwy am Janet Reed

"Mae gennym gwir gyfle i adael etifeddiaeth barhaol a gwneud gwahaniaeth MAWR drwy ddefnyddio arian y Loteri i adfywio ac ailfywhau cymunedau a thaclo anfantais yn uniongyrchol"

Estynnodd gyrfa Janet gyda Nwy Prydain dros 31 mlynedd ac roedd yn cynnwys rolau mewn gwerthu, marchnata a rheolaeth gyffredinol yn y marchnadoedd masnachol a domestig.

Chwaraeodd rôl ganolog wrth sefydlu'r Swyddfa Werthiannau Genedlaethol yng Nghaerdydd, a gyflogodd dros 2000 o staff. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2004 am ei gwasanaethau i ddatblygu economaidd yng Nghymru.

Bu Janet yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned am 12 mlynedd ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn annog arweinwyr busnes i chwarae rhan yn y cymunedau lle maent wedi’u lleoli. Defnyddiodd y profiad hwn yn ei rôl fel Ymddiriedolwr Cyngor Sgowtiaid Cymru.

  • Bu Janet yn aelod a Chadeirydd ar Gyngor CBI Cymru.
  • Bu'n aelod o Fwrdd Awdurdod Datblygu Cymru ac yn rhan o Grŵp Arweinyddiaeth Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru.
  • Bu’n Gyfarwyddwr anweithredol Awdurdod Porth Aberdaugleddau.
  • Mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Pawb a'i Le

Ymddeolodd Janet Reed o swydd Rheolwr Cenedlaethol Nwy Prydain yn 2005.

Fran Targett

Fran Targett - Aelod pwyllgor

Mae Fran Targett wedi ymwneud â Chyngor ar Bopeth ers 1978, ac fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru yn 2000, gan reoli tîm sy'n gyfrifol am gyflwyno gwasanaethau i swyddfeydd Cyngor ar Bopeth ledled Cymru ac am arwain gwaith polisi Cyngor ar Bopeth Cymru.

Mwy am Fran Targett

"Wedi gweithio yn y trydydd sector ers nifer o flynyddoedd, rwy’n ymwybodol pa mor hanfodol yw ein hariannu wrth gyflwyno prosiectau o safonsy’n helpu pobl ledled y wlad"

Mae Fran yn dal nifer o swyddi, gan gynnwys:

  • eistedd ar Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • aelod o grŵp ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi
  • cynrychioli’r sector Cyngor ac Eiriolaeth ar Gyngor Partneriaeth Sector Gwirfoddol Llywodraeth Cymru
  • cadeirio Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol Cymru
  • eistedd ar Bwyllgor CLS Cymru fel cynrychiolydd darparwyr.

Yn ymrwymedig i gydraddoldeb, mae Fran wedi cydweithio’n agos â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.

Gareth Newton

Gareth Newton - Aelod pwyllgor

Mae Gareth Newton yn un o aelodau pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Mwy am Gareth Newton

"Mae'n bleser gennyf fod yn rhan o dîm sy'n sicrhau bod ein hariannu'n parhau i gael effaith ac estyn allan i rannau o Gymru lle mae anfantais yn broblem y mae ei gwreiddiau'n ddwfn"

Ar ôl 11 mlynedd o ddysgu mewn ysgolion uwchradd yn y Bari a Chaerdydd, ymunodd Gareth, gŵr priod a thad i ddau o blant, â Chyngor Sir Morgannwg Ganol ym 1986 fel Swyddog Addysg Cymunedol amser llawn.

Mae ei waith wedi cynnwys:

  • gradd M.Sc. o Brifysgol Morgannwg mewn rheoli gwasanaethau addysg
  • cael ei benodi gan Brifysgol Cymru yn arholwr allanol ar gyfer gradd B.A. mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam.
  • cael ei benodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Brif Swyddog Addysg Cymunedol.
  • wedi hynny, yn Gyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes y Cyngor yn 2000, gan ddal y swydd hon nes iddo ymddeol yn gynnar ym mis Mawrth 2007.

Mae Gareth yn aelod lleyg ac yn Gadeirydd Pwyllgorau Cofrestru ac Ymddygiad Cyngor Gofal Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru a, than fis Rhagfyr 2012, yn aelod o Banel Tâl Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru.

Mike Theodoulou

Mike Theodoulou - Aelod pwyllgor

Mike Theodoulou yw un o aelodau pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Mwy am Mike Theodoulou

"Mae galw cyson am arian y loteri yng Nghymru a’n gwaith ni yw sicrhau fod pob cymuned yn cael gwerth am eu punt Loteri"

Mae Mike yn Gadeirydd CBSA (Cymru) Cyfyngedig. Mae'r Ganolfan dros Fusnes a Gweithredu Cymdeithasol yn un o'r mudiadau aelodaeth fusnes mwyaf yng Nghymru gyda thros 2000 o fusnesau fel aelodau. Mae CBSA yn cefnogi busnesau i dyfu ar yr un llaw ac yn eu cynnwys wrth gyflwyno prosiectau gweithredu cymdeithasol ar y llaw arall.

Mae ei yrfa wedi cael ei rannu rhwng y sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol, gan ddechrau yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain ac yna symud i Lywodraeth Leol, yn gweithio i ddau awdurdod yn Llundain. Am nifer o flynyddoedd fe redodd un o gymdeithasau tai mwyaf y DU, gan gyflwyno cyllid preifat ac atebion hynod o arloesol i fynd i'r afael â digartrefedd.

Bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni adeiladu a datblygu mawr ac yn gyfarwyddwr gweithredol Quality Street Ltd, gan fod yn atebol am gyllideb o hanner biliwn o bunnoedd.

Yng Nghymru mae wedi arwain y grŵp Foothold a ddatblygodd i fod yn un o'r grwpiau adfywio mwyaf yng Nghymru.

Yn y gorffennol mae Mike wedi:

  • cadeirio'r bwrdd partneriaeth a sefydlodd Cyllid Cymru, Banc Datblygu Cymru
  • bod yn Gadeirydd sefydlu Siambr Cymru Cyf
  • eistedd ar y pwyllgor a oruchwyliodd raglen Amcan Un yr UE yng Nghymru, a chadeirio'r is-bwyllgor monitro
  • cadeirio Siambr Masnach Sir Gâr am 10 mlynedd
  • cael ei benodi'n gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Sir Gâr
  • bod yn gadeirydd y llywodraethwyr mewn ysgol leol.

Ar hyn o bryd mae Mike hefyd yn:

  • gyfarwyddwr Foothold Regeneration Cyf
  • llywodraethwr ysgol lleol
  • cynghorydd lleol etholedig ar gyfer Pen-bre a Phorth Tywyn.
Graham Benfield

Graham Benfield OBE - Aelod pwyllgor

Graham Benfield yw un o aelodau pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Mwy am Graham Benfield OBE

"Yr her fwyaf a wynebwn yw sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi'n briodol er mwyn iddo fedru cefnogi anghenion pobl a chymunedau ledled Cymru mewn ffordd effeithiol"

Mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 3000 o aelodau a 130 o staff wedi’u lleoli ledled Cymru, ac mae'n rheoli cyllideb o £30 miliwn. Dyma'r asiantaeth annibynnol genedlaethol sy’n darparu ymchwil, hyfforddiant, gwybodaeth, polisi ac ariannu ar gyfer gwirfoddolwyr a'r sector gwirfoddol.

Mae Mr Benfield wedi bod yn Brif Weithredwr arno ers 1989.

Ymhlith ei swyddi blaenorol mae:

  • Cyfarwyddwr Virginia House Settlement, Plymouth;
  • Uwch Ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol a Gwaith Cymunedol, Plymouth;
  • Swyddog Datblygu Cymdeithasol yn Skelmersdale New Town;
  • Cyfarwyddwr Asiantaeth Gwirfoddoli Ieuenctid, Llundain;
  • Cyfarwyddwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gorllewin Morgannwg.

Mae ganddo MA (Rhydychen) mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg ac MSc mewn Polisi Cymdeithasol o Brifysgol Cymru.

Ar hyn o bryd mae'n:

  • Aelod o Bwyllgor Cronfa Loteri Fawr Cymru
  • Aelod o CIVICUS - Cynghrair y Byd dros Gyfranogiad Dinasyddion
  • Aelod o Fwrdd Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau’n Gyntaf
  • Aelod o Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol
  • Aelod o bwyllgor Cymru'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Cadeirydd y Glymblaid Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Cadeirydd Fforwm Arianwyr Cymru
  • Fel gwirfoddolwr mae’n Is-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd
  • Aelod o'r Comisiwn Newid Hinsawdd
  • Aelod o'r Grŵp Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus.
Barbara Wilding

Dr Barbara Wilding CBE - Aelod pwyllgor

Mae Dr Barbara Wilding yn un o aelodau pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Mwy am Dr Barbara Wilding CBE

"Mae arian gan y Gronfa Loteri Fawr eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ledled Cymru, a pharhawn i gefnogi'r bobl a'r cymunedau mwyaf anghenus"

Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru 2004-2009

Ymunodd Miss Wilding â Heddlu’r Tiroedd yn Jersey fel cadét ym 1967 ac fe’i hardystiwyd yn gwnstabl ym 1970. Ym 1971 fe drosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan lle gwasanaethodd yn bennaf fel ditectif gweithredol ledled Llundain ac ar unedau arbenigol yn New Scotland Yard. Daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Swydd Gaint ym 1994, gyda chyfrifoldeb dros Bersonél, ac ym 1997 cymerodd gyfrifoldeb dros Ymgyrchoedd Troseddu, Cudd-wybodaeth a Chyswllt Ewropeaidd.

Ym 1998 trosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan fel Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol  a gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Strategol a hefyd Ymgyrchoedd Arbenigol, lle bu'n bennaeth y Gyfarwyddiaeth Diogelwch ac Amddiffyn, gan gynnwys:

  •     diogelwch Gweinidogion
  •     y Teulu Brenhinol
  •     y Gangen Arbennig
  •     Maes Awyr Heathrow
  •     cudd-wybodaeth a'r uned arfau tân arbenigol

Astudiodd Miss Wilding droseddeg ym Mhrifysgol Llundain, mae ganddi Ddoethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Morgannwg ac mae hi'n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. mae hi'n Gydymaith y Sefydliad Rheoli Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Mae hi hefyd yn Aelod o'r Sefydliad Materion Rhyngwladol Brenhinol a'r Coleg Astudiaethau Amddiffyn Brenhinol. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr yr Elusen Crimebeat Genedlaethol.

O fewn Cymru, dynma ei chyflawniadau:

  • Aelod Bwrdd y Gronfa Loteri Fawr
  • Dyfarnwyd Medal Heddlu’r Frenhines iddi yng Ngwobrau'r Mileniwm 2000 am wasanaeth arbennig i’r heddlu
  • Anrhydeddwyd Miss Wilding yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines yn 80 mlwydd oed pan dderbyniodd fedal Comander Ymerodraeth Prydain am ei gwasanaethau i’r heddlu
  • Is-lywydd Age Cymru, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn Ymddiriedolwr Ieuenctid Heddlu De Cymru
  • Cadeirydd Pwyllgor – Iechyd Meddwl

Mae Miss Wilding yn briod ac mae ganddi ddwy ferch sy'n oedolion.

Rona Aldrich

Rona Aldrich - Aelod pwyllgor

Mae Rona Aldrich yn un o aelodau pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Mwy am Rona Aldrich

"Gydag arian i gefnogi unigolion a chymunedau'n mynd yn gynyddol brin, mae rôl y Gronfa Loteri Fawr yn hollbwysig wrth barhau i ariannu prosiectau arloesol er mwyn cynnal a datblygu cymdeithas ac economi Cymru"

Gyda Gradd Feistr mewn Gwyddor Llyfrgelloedd a Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, mae Rona Aldrich wedi gweithio mewn llywodraeth leol trwy gydol ei bywyd gwaith, yr 20 mlynedd diwethaf ar lefel reoli uwch. Yn ogystal â bod yn Bennaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Diwylliant, bu'n ymwneud â datblygu cynllun Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Conwy, ac fe reolodd brosiect aml-asiantaeth gwerth £2m o dan y cynllun hwnnw. Gwasanaethodd ar Grŵp Llywio Bay of Life (y rhaglen i adfywio tref Bae Colwyn), fel Cadeirydd Asiantaeth Gymunedol Y Rhyl a Chyngor ar Bopeth.

Yn ogystal â bod yn ymgynghorydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae Rona hefyd wedi gweithio'n llawrydd i'r Gymdeithas ac i Lywodraeth Cymru. Fe'i penodwyd gan y Gweinidog Treftadaeth (ar y pryd) i eistedd ar Gyngor Ymgynghorol gwreiddiol CyMAL (adran bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd) a chynrychiolodd Cymru ar lefel y DU.

Gyda'r Gymraeg yn famiaith iddi, mae Rona yn eistedd ar Bwyllgor Gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru. Mae hi wedi bod yn aelod o Bwyllgor Pawb a'i Le y Gronfa Loteri Fawr ers 4 blynedd.

ADBORTH