Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hapus i wirfoddoli?

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ariannu miloedd o achosion da ledled y DU - o gymorth seibiant i ofalwyr, prosiectau i helpu pobl i oresgyn anableddau neu salwch, cefnogi plant neu bobl ifanc i gyflawni eu potensial, neu adfywio parciau a mannau cyhoeddus - y mae llawer ohonynt yn chwilio am gefnogaeth gan wirfoddolwyr.

Ond yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i eraill, mae ymchwil y Gronfa Loteri Fawr wedi gweld y gall gwirfoddoli helpu i gynyddu sgiliau, hyder a hunan-barch pobl.

Meddai'r arbenigwr Judi James:

“Mae gwirfoddoli i helpu eraill yn ffordd wych o gwrdd â ffindiau newydd, cynyddu hunanhyder a hunan-barch a rhoi ymdeimlad o gyflawniad personol i chi. Efallai ei fod yn oer y tu allan, ond gall ychydig o amser wedi'i dreulio yn helpu eraill roi ymdeimlad o foddhad a'ch helpu chi i guro'r felan.” 

Bwrw golwg ar y map isod i weld prosiectau yn eich ardal y mae angen gwirfoddolwyr arnynt a chliciwch ar y piniau am fwy o wybodaeth.


Gweld Blue Monday - volunteering campaign mewn map mwy

Neu, ewch i'r gwefannau i gael gwybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli eraill yn eich ardal:

Community Service Volunteers (CSV)
Ymuwch â'r 150,000 o bobl sy'n gwirfoddoli gyda CSV bob blwyddyn. Mae gan bawb rywbeth i'w roi ac i'w ennill. 

Do-It – Volunteering made easy
Rhowch eich côd post i gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal. Yna ymgeisiwch ar-lein.

Help from Home
Gwirfoddoli y gallwch ei wneud oddi cartref i weddu i'ch ffordd o fyw. Rhowch o'ch amser mewn blociau cyfleus er mwyn i achosion teilwng elwa arno.

Greater London Volunteering
Arbenigwyr wrth baru unigolion â chyfleoedd gwirfoddoli llawn boddhad. Chwilio am gyfleoedd yn agos i chi.

BancAmser
Ymgyrch genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth o werth rhoi o'ch amser ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr. Mae'r wefan yn cynnwys Cyfeirlyfr Cysylltiadau.

Voluntary Service Overseas (VSO)
Yn chwilio am bobl fedrus i wirfoddoli tramor. Cyfleoedd mewn 30 o wledydd datblygol.

vInspired
14-25 oed? Mae vInspired yn cysylltu pobl ifanc â miloedd o gyfleoedd gwirfoddoli.

Volunteering England
Yn dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am waith gwirfoddol yn eich maes o ddiddordeb.

Hawliau, treuliau a lleoliadau gwirfoddolwyr
Gwefan y llywodraeth sy'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am eich hawliau a chyfrifoldebau fel gwirfoddolwr a dod o hyd i leoliadau gwirfoddoli. Mae'n esbonio hefyd sut y gallwch wirfoddoli ar yr un pryd â hawlio lwfans ceisio gwaith.

WorldWide Volunteering (WWV)
Gwybodaeth am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli ledled y DU. Mae WWV yn fudiad nid er elw y mae ei nod yw ei gwneud hi'n haws i bobl o bob oedran wirfoddoli.

Heb gael eich darbwyllo o hyd?

Gwrandewch ar wirfoddolwyr a buddiolwyr o Bakewell and Eyam Community Transport, Peak District, a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, yn siarad am yr hyn y mae'r prosiect yn ei olygu iddyn nhw:

Bakewell and Hope Valley Community Car Scheme gan Cronfa Loteri Fawr

Judi James

Mae Judi James yn un o arbenigwyr iaith y corff/ymddygiad mwyaf blaenllaw y DU gyda phroffil uchel ar y teledu a'r radio. Mae hi wedi cyflwyno ei chyfres iaith y corff ei hun ar gyfer Channel 5 Naked Celebrity ac wedi ymddangos fel arbenigwr iaith y corff/ymddygiad rheolaidd ar Big Brother, Strictly Come Dancing a The Paul O’Grady Show. Mae hi hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd i bapurau newydd a chylchgronau.

Mae Judi yn rhedeg gweithdai i fusnesau ar bynciau gan gynnwys symbyliad, iaith y corff, pendantrwydd, sgiliau a cyflwyno a rheoli straen.

Mwy yn: www.judijames.com

ADBORTH