- Area:
- Cymru
- Programme:
- Release date:
- 3 4 2013
Mae ymgyrch gwerth £1.5miliwn i chwilio am syniadau newydd sbon yng Nghymru na roddwyd cynnig arnynt unrhyw le arall yn y DU wedi dechrau.
Heddiw mae'r Gronfa Loteri Fawr yn lansio trydedd rownd ei rhaglen Awydd am Arloesi a fydd yn buddsoddi arian mewn prosiectau sy'n ceisio dod o hyd i atebion newydd i broblemau cymdeithasol datblygol ynghyd â'r rhai y mae eu gwreiddiau'n ddwfn.
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi'i hymrwymo i ddod â gwir welliannau i'r cymunedau mwyaf anghenus, ond mae'n cydnabod nad yw dulliau presennol o ddiwallu anghenion yn gweithio bob tro, a bod rhai anghenion yn newydd, heb fod yna unrhyw ffordd o fynd i'r afael â nhw.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru: “Mae llawer o fudiadau eisiau datblygu dulliau newydd o ddiwallu anghenion, ond yn aml mae diffyg staff ac adnoddau ariannol i roi cynnig ar syniadau newydd. Mae rhoi cynnig ar rywbeth newydd hefyd yn cynnwys risgiau - mae'n bosib y bydd yn gweithio'n rhannol yn unig neu efallai na fydd yn gweithio o gwbl.
“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, tasg heriol yw bod yn arloesol, yn enwedig os na warentir llwyddiant. Dyna pam rydym wedi lansio Awydd am Arloesi yng Nghymru. Gall helpu pobl i wireddu eu syniadau newydd mawr."
Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn dyfarnu grantiau rhwng £20,000 ac £1 miliwn. Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau o dan rownd tri y rhaglen yw 2pm ar ddydd Gwener 17 Mai, 2013.
Mae gan y Gronfa Loteri Fawr ddiddordeb mewn ceisiadau gan ystod eang o sectorau a mudiadau er mwyn i'r "syniadau gorau a gwirioneddol arloesol" gael eu hadnabod a'u hariannu. Bydd yn ystyried bod syniad yn un newydd os na roddwyd cynnig arno unrhyw le arall yn y DU, a bydd yn ariannu prosiectau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol cyhyd â bod o leiaf 75 y cant o'r bobl a fydd yn elwa yn byw yng Nghymru.
Ymysg y gofynion allweddol eraill ceir y gofyniad i ddangos bod y prosiect yn un newydd ac arloesol, ymgynghori'n helaeth â phobl sydd â diddordeb yn y gwaith ynghyd â darparwyr gwasanaeth eraill, ymchwil drwyadl i adnabod anghenion a dangos profiad o weithio gyda mudiadau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol i wneud y defnydd gorau o'r arbenigedd.
Mae prosiectau sydd eisoes wedi'u hariannu gan y rhaglen yn cynnwys £489,143 a ddyfarnwyd i Brifysgol Abertawe yn 2012 i'w galluogi i redeg y prosiect Iechyd Rhyngweithiol: Myfyrwyr sy'n Weithwyr Rhyw. Mae'r arian wedi gweld prosiect yn lansio i hyrwyddo dysgu a dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr sy'n weithwyr rhyw a materion cysylltiedig, ac i ddarparu gwasanaeth iechyd rhywiol arloesol ar eu cyfer. Bydd y prosiect yn darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru y maent yn weithwyr rhyw, a bydd yn eu cyfeirio i wasanaethau lleol. Bydd y prosiect hefyd yn darparu gwybodaeth iechyd rhywiol ac arweiniad arfer da ar gyfer prifysgolion a gwasanaethau lleol yng Nghymru.
Ym mis Ionawr y llynedd, derbyniodd Cyrenians Cymru Cyf £793,893 i ddarparu'r Community Horse and Pony Scheme (CHAPS), canolfan geffylau newydd a redir gan y gymuned yn Abertawe sy'n ceisio mynd i'r afael â materion ynglŷn â thethu a gadael ceffylau, ac ar yr un pryd cynnwys a chefnogi pobl ddi-waith, camddefnyddwyr sylweddau a phobl ifanc sydd wedi dadrithio yn y gymuned.
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne: 029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735
Ffôn testun: 0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £28 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags