Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Chwerthin yn Donig i Gymunedau Cymru Diolch i Arian Mawr

Area:
Cymru
Programme:
Arian i Bawb Cymru
Release date:
30 4 2013

Dywedir mai chwerthin yw'r moddion gorau, ac mae buddion emosiynol a chorfforol chwerthin wedi cael eu disgrifio'n drwyadl.  

Dyna pam mae grŵp CBC Feelgood Communities ymysg y 65 o brosiectau cymunedol ar draws Cymru i rannu bron £240,000 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf y rhaglen grantiau bach Arian i Bawb (rhestr lawn y dyfarniadau ar gael ar ddiwedd y datganiad a disgrifiad llawn o’r prosiectau ar gael drwy glicio ar y ddolen yma).

Bydd CBC Feelgood Communities yn defnyddio eu dyfarniad o £5,000 i lansio'r Diwrnod Chwerthin Cenedlaethol Cymru (12 Mehefin 2013) cyntaf erioed - prosiect i hyrwyddo chwerthin ar draws y wlad. Amcan y prosiect yw darparu gweithgareddau lles a chwerthin i wella iechyd meddyliol a chyffredinol cymunedau www.feelgoodcommunities.com a https://www.facebook.com/laugh4wales.
   
Bydd y grŵp yn darparu sesiynau seiliedig ar gemau sy'n annog chwerthin a hunanymwybyddiaeth ac yn cynnwys amser ar gyfer trafodaethau a rhyngweithio fel grŵp. Mae'r sesiynau'n seiliedig ar y ffaith bod chwerthin wedi'i brofi i ymlacio'r corff cyfan, rhoi hwb i'r system imiwn, rhyddhau endorffinau a diogelu'r galon. Mae hyn yn arbennig o fuddiol i bobl â phroblemau iechyd meddwl, gofalwyr a phobl anabl sydd yn aml yn byw mewn amgylchiadau straenus. Bydd y sesiynau'n dod â phobl ynghyd o ystod helaeth o gefndiroedd i ddysgu ffyrdd newydd o leddfu straen, gan eu galluogi i ymdopi'n well. 

Bydd y grŵp yn gweithio i recriwtio gwirfoddolwyr a fydd yn rhedeg sesiynau chwerthin ar ôl Diwrnod Chwerthin Cenedlaethol cyntaf Cymru. Byddant hefyd yn ymgynghori â mudiadau cymunedol lleol ac yn cynnal sesiynau i ddangos i bobl yng Nghymru sut y gallant defnyddio chwerthin i wella'u hiechyd a'u hapusrwydd.  Yr amcan hir dymor yw sefydlu a rhedeg clybiau chwerthin ar draws Cymru. Bydd y clybiau'n galluogi pobl i ddysgu sgiliau a mecanweithiau ar gyfer delio gyda straen a sefyllfaoedd anodd, codi eu hunanhyder a'u gallu i fynegi emosiwn, gwella sgiliau cymdeithasol a'u helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u hunain a phobl eraill. 

Yn amlygu pwysigrwydd y prosiect, meddai Mr Robin Graham, un o Gyfarwyddwr ac yn Arbenigwr Chwerthin gyda Feelgood Communities: “Rydym wedi bod yn datblygu ein gwaith sy’n gysylltiedig â chwerthin ers 1998, gan gymysgu ymagwedd a dadansoddiad gwyddonol gyda syniadau creadigol cyfoes. Rydym wedi dod â’n sgiliau chwerthin i fusnesau, awdurdodau lleol, sefydliadau addysgol, mudiadau iechyd a mudiadau eraill yn y DU ac mewn gwledydd eraill, yn ogystal â rhannu syniadau trwy berfformiadau theatr.”

Ychwanegodd Robin, sydd ag MA mewn Ymwybyddiaeth Iechyd a Hapusrwydd: “Trwy chwerthin gallwn wella ein hiechyd a’n hapusrwydd a rheoli straen yn well. Yn syml, mae hyn oherwydd bod ein ffisioleg yn newid pan fyddwn yn chwerthin. Mae chwerthin yn ein helpu i gyflawni cydbwysedd eto. Mae’n ein helpu i fod yn fwy iach ac wedi’n hymlacio trwy ostwng yr hormonau straen, cynyddu gwrthgyrff i ymladd yn erbyn haint, gostwng pwysau gwaed, rhyddhau endorffinau sy’n rhoi’r ffactor ‘teimlo’n dda’ i ni a gwella anadlu a chylchrediad y gwaed. Mae hefyd yn brofiad a rennir sy’n creu cof da

Mae grantiau eraill a ddyfarnwyd yn amlygu amrywiaeth yr hyn y gellir ei ariannu trwy'r rhaglen Arian i Bawb. Bydd yr Ymgyrch Anaffylacsis yn defnyddio'u grant o £1,071 i gyflwyno gweithdy rhyngweithio yng Nghaerdydd i bobl ifanc 11 - 18 oed ag alergeddau difrifol, a bydd Cylch Meithrin Cwrt Henri yn Sir Gâr yn rhedeg prosiect o'r enw 'Cymraeg i’r teulu’ a fydd yn rhoi cyfle i rieni ddatblygu eu sgiliau Cymraeg gyda'u plant.

Ac mae'n amser chwarae yng Ngogledd Cymru diolch i'r dyfarniadau diweddaraf. Bydd Cylch Meithrin Porthmadog yng Ngwynedd yn gwario'u dyfarniad o £5,000 ar adnoddau addysgol a theganau gan gynnwys cyfarpar chwarae awyr agored i blant. Ac yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam, bydd Canolfan Ceiriog CYF hefyd yn gwario'u dyfarniad o £3,436 ar ddatblygu ardal chwarae awyr agored i ddarparu man diogel ac ysgogol i blant sy'n mynychu'r Cylch.

Mewn prosiect rhwng y cenedlaethau, bydd Arts Alive yng Nghrucywel, Powys, yn gwario £5,000 ar ddod â phobl hŷn sy'n byw mewn tai lloches a phobl ifanc o loches i'r digartref ynghyd i greu gwaith celf sy'n archwilio themâu tai a digartrefedd. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, bydd Swallow Laryngectomy Club yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, yn defnyddio'u £1,560 i drefnu gwibdeithiau cymdeithasol ar gyfer eu haelodau sy'n ailsefydlu ar ôl canser y gwddf i'w galluogi i addasu i'w cyflwr a gwella'u lleferydd.

Meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae Arian i Bawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae'r arian yn helpu sefydlu grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, gan hyrwyddo dysgu, cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a helpu adeiladu cymunedau cryfach.”      

Mae'r ffurflen gais ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei lawrlwytho o www.arianibawb.org.uk neu dros y ffôn ar 0845 4 10 20 30.

Rhestr lawn y dyfarniadau (Cliciwch yma am ddisgrifiad llawn o’r prosiectau)

Mudiad

Lleoliad

Dyfarniad

Mudiad

Lleoliad

Dyfarniad

Beaumaris 50's Club

Ynys Môn

£5,000

Beaufort Centre Management Committee

Casnewydd

£4,400

Breaking Barriers Community Arts

Blaenau Gwent

£4,965

Whittle Court and Bungalows Residents Association

Casnewydd

£5,000

Mid Valleys East Argoed Ward Art Society

Caerffili

£3,287

Happy Hearts

Casnewydd

£2,000

Club 707

Caerffili

£3,375

Penhow Community Council

Casnewydd

£5,000

Feelgood Communities CIC

Caerdydd

£5,000

Noah's Ark  Fun Club

Sir Benfro

£4,314

The Anaphylaxis Campaign

Caerdydd

£1,071

Ambleston And Tufton Senior Citizens

Sir Benfro

£2,285

Home-Start Butetown, Grangetown, Riverside

Caerdydd

£2,380

Cilgerran Community Council

Sir Benfro

£5,000

Llangynin Nature and Gardening Group

Sir Gâr

£2,807

Canolfan Pennant

Powys

£4,800

Cylch Meithrin Cwrt Henri

Sir Gâr

£4,638

Crickhowell Community Primary School

Powys

£4,200

Hoelion Wyth Cangen Hendy-gwyn ar Daf a'r Cylch

Sir Gâr

£2,390

The National Council of Young Men's Christian Association of Wales Incorporated

Powys

£5,000

Brynaman Kids Club

Sir Gâr

£4,867

Swallow Laryngectomy Club

Rhondda Cynon Taf

£1,560

Tumble Family Centre

Sir Gâr

£2,500

Telecentre And Business School Ltd

Rhondda Cynon Taf

£5,000

Cyngor Cymuned Myddfai

Sir Gâr

£1,396

Nixon's Workmen's Institute

Rhondda Cynon Taf

£5,000

Whitland Old Age Pensioners Association

Sir Gâr

£4,535

PAST Carers Group R.C.T.

Rhondda Cynon Taf

£5,000

Pensioners Voice - Porthyrhyd & Llanddarog Branch

Sir Gâr

£3,706

Local Aid for Children and Community Special Needs

Abertawe

£5,000

Felinfoel Executive Committee Ltd.

Sir Gâr

£3,695

1st Loughor Brownies

Abertawe

£2,914

Taf/Myrddin Tenant Network

Sir Gâr

£4,680

1st Llwchwr Guides

Abertawe

£2,622

Clwb Croeso Llandysul

Ceredigion

£2,420

The Killay Scout Group

Abertawe

£5,000

The Royal Air Forces Association Cardigan Branch,No 278

Ceredigion

£4,970

Cymdeithas/Urdd Tabernacl Cwmrhydyceirw

Abertawe

£1,967

Llanfwrog Community Association CIC

Sir Ddinbych

£4,500

Trallwn Senior Citizens Club

Abertawe

£4,985

Waen Congregational Chapel

Sir Ddinbych

£5,000

Glyncollen Primary School

Abertawe

£4,550

Denbighshire Farm Women's Club

Sir Ddinbych

£4,920

South West Wales Neurological Alliance

Abertawe

£1,000

The Visually Impaired Persons Club

Sir y Fflint

£1,540

The Wednesday Club

Torfaen

£1,200

LAFS (Lixwm Afterschool ) Club

Sir y Fflint

£1,450

Pontnewynydd Old Age Pensioners Social Club

Torfaen

£2,900

Clwyd Alyn Housing Association Limited

Sir y Fflint

£4,610

Pontypool Dance Club

Torfaen

£2,090

Age Concern - Cangen Caerwys

Sir y Fflint

£2,410

Wainfelin and Pen Tranch Community Association

Torfaen

£1,620

Cylch Meithrin Porthmadog

Gwynedd

£5,000

Mudiad Meithrin Cyf

Cymru

£4,862

Arts Alive

Sir Fynwy

£5,000

Music in Hospitals

Cymru

£3,780

Port Talbot Community Sports Limited

Castell-nedd Port Talbot

£4,793

Eglwys Cornerstone (Cwmbach)

Cymru

£1,600

Skewen and District Historical Society

Castell-nedd Port Talbot

£4,989

Canolfan Ceiriog Centre CYF

Wrecsam

£2,000

Trebanos OAP Association

Castell-nedd Port Talbot

£2,665

Cylch Maes-y-Gornel

Wrecsam

£3,436

Port Talbot Women's Institute

Castell-nedd Port Talbot

£4,405

Gresford and Pandy Sport & Leisure Ltd

Wrecsam

£4,999

The Gold Cross

Castell-nedd Port Talbot

£5,000

 

 

 


Mwy o Wybodaeth:
Ben Payne - Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 029 2067 8224
Cyswllt y tu allan i oriau:  07500 951 707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 0300 123 0735                           Ffôn testun:    0845 6021 659
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter:  www.twitter.com/loterifawrcymru
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales 

Nodiadau i Olygyddion
• Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £100,000 y diwrnod mewn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.
• Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
• Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Buddiolwyr

  • Pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Gofalwyr
  • Pobl ag Anableddau
  • Pobl Ifanc
  • Pobl Hŷn

Themâu

  • Plant a phobl ifanc
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Iechyd a lles
ADBORTH