Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Gafael mewn Grant

Mae'r Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dod ynghyd i ddyfarnu gwerth hyd at £25,000 o grantiau i grwpiau cymunedol.
Ardal:
Cymru
Maint yr ariannu:
£500 - £5,000
Cyfanswm ar gael:
£25,000
Terfyn amser ymgeisio:
07/06/2013 12:00:00

Beth yw amcan y rhaglen?

 



O dan y pennawd Gafael mewn Grant, bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn dyfarnu grantiau o hyd at £5,000 yr un i brosiectau a fydd yn helpu i wella bywydau pobl yn eu cymunedau lleol.

Trwy ein gwefan ni, gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thudalennau Newsline, papur newydd am ddim yr awdurdod lleol, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn galw ar grwpiau cymunedol i gyflwyno eu ceisiadau erbyn 12 hanner dydd ar ddydd Gwener 7 Mehefin, 2013. Yna bydd y gwefannau'n arddangos prosiectau ar y rhestr fer, gyda'r cefnogwyr yn pleidleisio dros eu ffefryn trwy bleidlais ar y we. Wedi hynny bydd grantiau'n cael eu dyfarnu i'r pum prosiect sy'n derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth.

Mae Gafael mewn Grant yn agored i unrhyw grŵp cymunedol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd â syniad ar gyfer prosiect a fydd yn cyflawni o leiaf un o'r canlyniadau a ganlyn:

  • cefnogi gweithgareddau cymunedol
  • estyn mynediad a chyfranogiad 
  • cynyddu sgiliau a chreadigrwydd 
  • gwella ansawdd bywydau pobl yn yr ardal yn gyffredinol.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis ar gyfer y bleidlais gyhoeddus yn ymddangos ar wefannau'r Gronfa Loteri Fawr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd angen i fudiadau sy'n ystyried ymgeisio gytuno i gyhoeddusrwydd gan fod hyn yn un o ofynion allweddol y rhaglen.

Beth i'w wneud nesaf

  • Darllenwch y nodiadau arweiniad a'r cwestiynau cyffredin yn fanwl i ddarganfod p'un ai Gafael mewn Grant yw'r rhaglen iawn i chi ai beidio
  • Edrychwch ar y siart llif ymgeisio Gafael mewn Grant i sicrhau y gallwch fodloni amserlenni a disgwyliadau'r rhaglen
  • Cwblhewch yr holiadur cymhwysedd i gael gwybod p'un a yw eich prosiect yn gymwys i ymgeisio ai beidio. Os ydych, bydd modd i chi lawrlwytho'r ffurflen gais, y dylech ei llenwi a'i dychwelyd atom erbyn terfyn amser y rhaglen.

Cysylltu â ni:

 

Y siart llif ymgeisio

Holiadur cymhwysedd


Tagiau

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Adnabod a diwallu angen
  • Cefnogi Newidiadau Cadarnhaol

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc
  • Plant
  • Teuluoedd
  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol
  • Pobl Hŷn
ADBORTH